Skip to main content

Rydym yn lleihau oedi yn y System Cyfiawnder Troseddol

Drwy gydweithio’n effeithiol â phartneriaid, rydym yn mynd i’r afael ag oedi yn y system cyfiawnder troseddol gyfan er mwyn sicrhau canlyniadau amserol a chyfiawn i bawb.

Ein huchelgais yw lleihau oedi ar draws y system cyfiawnder troseddol, fel bod dioddefwyr a thystion yn cael canlyniadau amserol a chyfiawn. Drwy wella’r broses o hwyluso achosion yn gynnar, defnyddio offer digidol gwell a gweithio’n agos gyda’r heddlu a’r llysoedd, byddwn yn cwtogi amserlenni o’r dechrau i’r diwedd, yn lleihau ôl-groniadau ac yn gwella perfformiad cyffredinol y system.

Byddwn yn mesur llwyddiant drwy ein Dangosyddion Perfformiad Allweddol:

Targed

Mae o leiaf 75% o’n hadolygiadau neu benderfyniadau ynghylch cyhuddo gwyrdd1 yn cael eu cwblhau o fewn 28 diwrnod, fel rhan o’n hymdrechion parhaus i wella perfformiad.

≥75%

Mae o leiaf 87% o’n hadolygiadau neu benderfyniadau ynghylch cyhuddo coch2 yn cael eu cwblhau o fewn 3 awr, fel rhan o’n hymdrechion parhaus i wella perfformiad.​

≥87%

Bydd o leiaf 84% o’r datgeliadau cychwynnol yn cael eu cyflwyno cyn y ple a’r gwrandawiad paratoi ar gyfer treial, neu yn unol â chyfarwyddyd Llys y Goron.

≥84%

Bydd o leiaf 95% o ddatgeliadau cychwynnol achosion yr erlyniad yn cael eu cyflwyno o fewn pum diwrnod i’r gwrandawiad cyntaf yn y llys ynadon.

≥95%

Bydd ein System Rheoli Achosion Ddigidol graidd ar gael i’n pobl o leiaf 99.9% o’r amser gweithredol sydd wedi’i gynllunio. Bydd hyn yn mesur ein perfformiad digidol gweithredol gan fod y system yn hanfodol er mwyn i’n pobl allu darparu gwaith achos amserol ac osgoi oedi diangen.

≥99.9%

Eleni, byddwn yn lleihau oedi drwy:

  •  Defnyddio technoleg i gyflymu gwaith achos
  • Gwella cysondeb a lleihau gwaith diangen
  • Gweithio ar draws y system i leihau oedi gyda’n gilydd
     
RhaglenByddwn yn:Erbyn:
Adnoddau Gwaith Achos yn y DyfodolGwella offer digidol i reoli achosion mawr a chymhleth, gan gynnwys adolygu achosion a rheoli deunydd achosion, er mwyn symleiddio’r gwaith o baratoi achosion a lleihau oedi y gellir ei osgoi.31 Rhagfyr 2026
Gwella’r offer yn ein Rhaglen Gwaith Achos sy’n helpu ein pobl i drefnu, paratoi a rheoli ein deunydd gwaith achos er mwyn arbed amser, gwneud y broses yn fwy cyson, a gwella ansawdd y gwaith achos.31 Mawrth 2027
Creu prototeip o Wasanaeth Briffio ac Ymgysylltu newydd i Adfocatiaid i ystyried a allwn wella’r ffordd rydym yn gwneud hyn, ac a allwn gyflwyno’r gwasanaeth yn ehangach i wneud y broses yn gyflymach, yn gliriach ac yn fwy dibynadwy er mwyn i achosion allu symud ymlaen yn fwy llyfn.31 Rhagfyr 2026
Esblygu Dulliau CyhuddoGweithio gyda’n partneriaid i brofi ffyrdd symlach o adeiladu ffeiliau achos ar gyfer achosion llysoedd ynadon a Llys y Goron er mwyn gweld beth arall allwn ei wneud i wella effeithlonrwydd a lleihau oedi.31 Mai 2026
Gwerthuso’r Prosiect Awdurdod Cyhuddo er mwyn i ni allu gweld pa mor dda mae’n gweithio, ac a oes modd i ni ei gyflwyno’n ehangach i symleiddio prosesau a lleihau oedi.31 Mai 2026
Cwblhau 7fed argraffiad Canllawiau Cyhuddo’r Cyfarwyddwr er mwyn ei gwneud yn haws i’n partneriaid ddeall beth sydd ei angen yn ffeiliau’r heddlu. Mae gwneud hyn yn iawn y tro cyntaf yn arbed cryn amser i ymchwilwyr ac erlynwyr ac yn sicrhau bod unrhyw waith ychwanegol ac oedi dilynol yn cael eu lleihau.31 Gorffennaf 2026
Loading...