Rydym yn cynyddu ymddiriedaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron
Rydym yn rhoi dioddefwyr wrth galon y System Cyfiawnder Troseddol, gan hyrwyddo dull cefnogol, parchus a theg.
Ein huchelgais yw cryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd drwy sicrhau bod dioddefwyr, tystion a diffynyddion yn cael eu trin yn glir, yn gyson ac yn deg ymhob cam o’r broses. Drwy wella dulliau cyfathrebu, mynd i’r afael ag anghymesuredd a gwella tryloywder o ran sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, ein nod yw cynyddu hyder yng nghanlyniadau Gwasanaeth Erlyn y Goron a thegwch y system drwyddi draw.
| Byddwn yn mesur llwyddiant drwy ein Dangosyddion Perfformiad Allweddol: | Targed |
|---|---|
| Byddwn yn cynnal neu’n cynyddu cyfran y bobl sy’n hyderus bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn erlyn y person iawn am y drosedd iawn (2025: 53%), gan sicrhau ein bod yn gwrando ar y cyhoedd ac yn profi a ydym yn cyfleu ein pwrpas, ein perfformiad a’n blaenoriaethau’n effeithiol. | ≥53% |
| Bydd o leiaf 97.5% o anfonebau cymeradwy a hawliadau treuliau tystion yn cael eu setlo o fewn 10 diwrnod ar ôl iddynt ddod i law, gan fesur a ydym yn brydlon o ran cyflawni ein rhwymedigaethau i’r cyhoedd, gan sicrhau nad yw cefnogi’r system i sicrhau cyfiawnder yn achosi baich ariannol. | ≥97.5% |
| Bydd o leiaf 76% o’n llythyrau at ddioddefwyr agored i niwed a/neu ddioddefwyr sy’n cael eu bygwth yn cael eu hanfon o fewn y safonau amseroldeb o 24 awr, er mwyn i ddioddefwyr allu ymddiried y byddwn yn cysylltu â nhw mewn da bryd, ac er mwyn i ni sbarduno perfformiad tuag at gyflawni ein hymrwymiad statudol o 100% o amseroldeb. | ≥76% |
| Bydd o leiaf 90% o’n llythyrau at bob dioddefwr arall yn cael eu hanfon o fewn y safonau amseroldeb o bum diwrnod, er mwyn i ddioddefwyr allu ymddiried y byddwn yn cysylltu â nhw mewn da bryd, ac er mwyn sbarduno perfformiad tuag at gyflawni ein hymrwymiad statudol o 100% o amseroldeb. | ≥90% |
Eleni, byddwn yn cynyddu ymddiriedaeth ynom drwy wneud y canlynol:
- Gwella cefnogaeth i ddioddefwyr a thystion
- Gweithredu’n deg a mynd i’r afael ag anghymesuredd1
- Cryfhau tryloywder ac atebolrwydd
| Programme | This year we will: | By: |
|---|---|---|
| Trawsnewid Dioddefwyr | Diweddaru a lansio’r Cynllun Teulu mewn Profedigaeth ar draws Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn gwella profiad teuluoedd mewn profedigaeth. | 30 Medi 2026 |
| Cynnal gwerthusiad annibynnol o’r cynlluniau peilot Gwasanaeth Cyffredinol ac Ychwanegol i lywio’r ffordd yr ydym yn gwella profiad dioddefwyr yn ogystal â sicrhau gwerth am arian ym mhopeth a wnawn. | 31 Mawrth 2027 | |
| Cynllun Gweithredu ar Anghymesuredd | Cyflwyno set o fideos cynhwysol i’n pobl, sy’n rhannu profiadau go iawn gan grwpiau cymunedol ethnig lleiafrifol. Bydd hyn yn helpu pawb i ddeall rhagfarn yn well a’r effaith y gall ei chael ar bobl, a pham mae ein gwaith i fynd i’r afael â hyn yn bwysig. | 31 Rhagfyr 2026 |
| Cyflwyno pecynnau strategaeth achos thematig i helpu erlynwyr i ganfod a mynd i’r afael â rhagfarn yn eu penderfyniadau gan gefnogi canlyniadau tecach. | 31 Rhagfyr 2026 | |
Cyd-gynllun Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig | Creu modiwl hyfforddi newydd ar dagu a mygu i gefnogi ein herlynwyr i adeiladu achosion cadarn sy’n helpu i ddatrys yn gynnar.. | 31 Rhagfyr 2026 |
Adolygu a diweddaru’r protocol ar y cyd â’r Heddlu ar stelcio ac aflonyddu drwy wella diogelwch a chanlyniadau i ddioddefwyr. | 31 Mawrth 2027 | |
Bydd pob gweithiwr newydd yn cwblhau e-ddysgu ar Erlyniadau sy’n seiliedig ar Dystiolaeth er mwyn cefnogi safonau uchel cyson yn yr achosion mwyaf sensitif. | 31 Mawrth 2027 |