Rydym yn gwella ansawdd gwaith achos
Mae gwaith achos yn sail i bopeth a wnawn i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr. Rydym yn dal ein hunain i safonau uchel ac yn llunio achosion cryf.
Ein huchelgais yw darparu gwaith achos o ansawdd uchel yn gyson sy’n arwain at ganlyniadau cyflymach a thecach i ddioddefwyr, tystion a diffynyddion. Drwy wella ansawdd ffeiliau cynnar, cryfhau gallu cyfreithiol a gwreiddio sicrwydd cenedlaethol, rydym yn lleihau oedi, yn cynyddu cywirdeb cyhuddiadau ac yn cefnogi mwy o hyder yn y system gyfiawnder.
| Byddwn yn mesur llwyddiant drwy ein Dangosyddion Perfformiad Allweddol: | Targed |
|---|---|
| O’r rhai sy’n pledio’n euog yn y llys ynadon, bydd o leiaf 76% yn gwneud hynny yn y gwrandawiad gyntaf. | ≥76% |
| O’r rhai sy’n pledio’n euog yn Llys y Goron, bydd o leiaf 38% yn gwneud hynny yn y gwrandawiad cyntaf. | ≥38% |
| O’r achosion a ollyngir yn y llys ynadon, 25% gan mwyaf fydd yn cael eu gollwng yn y trydydd gwrandawiad neu’r gwrandawiad dilynol. | ≤25% |
Eleni, byddwn yn cynyddu ansawdd ein gwaith achos drwy wneud y canlynol:
- Cryfhau fframweithiau ansawdd
- Gwella ein sgiliau cyfreithiol
- Defnyddio offer a thechnoleg i gefnogi achosion cryfach
| Rhaglen | Byddwn yn: | Erbyn: |
|---|---|---|
| Ansawdd Gwaith Achos RASSO | Cyflwyno proses gyson newydd ledled y wlad i asesu gwaith achos RASSO a nodi meysydd i’w gwella er mwyn gwella cysondeb a chryfhau canlyniadau cyfiawnder. | 31 Hydref 2026 |
| Rhoi hyfforddiant a chymorth un-i-un i holl gyfreithwyr RASSO ar ddelio â gwaith achos er mwyn gwella eu sgiliau i’w cefnogi i wneud penderfyniadau gwell, delio ag achosion cymhleth, a bod yn hyderus yn eu rolau. | 31 Hydref 2026 | |
Gwella’r ffordd rydym yn gwneud ein penderfyniadau RASSO, a chryfhau ein sianeli llywodraethu i adolygu ein cynnydd yn barhaus yn fewnol a gyda rhanddeiliaid. Bydd hyn yn helpu pawb i gydweithio’n well drwy oruchwyliaeth glir, sgiliau cryf, a llywodraethiant da, gwella cysondeb a chryfhau canlyniadau cyfiawnder. | 31 Mawrth 2027 |