Rydym yn cynyddu gallu ymhob rhan o Wasanaeth Erlyn y Goron
Rydym eisiau i bawb yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron ffynnu a bod ar eu gorau. Rydym yn buddsoddi yn ein pobl er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu parchu a’u gwerthfawrogi am y gwaith maen nhw’n ei wneud.
Ein huchelgais yw datblygu’r gallu sydd ei angen i sicrhau cyfiawnder cyflymach o ansawdd uwch i’r cyhoedd. Drwy gryfhau capasiti adfocatiaeth, galluogi ein pobl i weithio’n fwy effeithlon drwy ddefnyddio technoleg yn foesegol, a lleihau oedi, rydym yn sicrhau bod dioddefwyr a thystion yn cael gwasanaeth mwy amserol ac effeithiol. Mae moderneiddio’r ffyrdd rydym yn gweithio yn cefnogi gwelliannau mewn perfformiad, cysondeb a gwerth am arian yn uniongyrchol.
| Byddwn yn mesur llwyddiant drwy ein Dangosyddion Perfformiad Allweddol: | Targed |
|---|---|
| Byddwn yn cynyddu Proffesiwn Digidol a Data (GDAD) y Llywodraeth i 3.5% o’r gweithlu erbyn 31 Mawrth 2027, fel bod gennym y capasiti a’r gallu i sbarduno arbedion effeithlonrwydd a gwelliannau drwy drawsnewid digidol. | 3.5% |
| I’r bobl sy’n ymuno â ni, byddwn yn sicrhau nad yw’r cyfnod rhwng derbyn cynnig cyflogaeth a llofnodi contract yn fwy na 32 diwrnod gwaith ar gyfartaledd, er mwyn sicrhau ein bod yn sbarduno twf er mwyn i ni allu mynd i’r afael â’r galw a lleihau oedi. | ≤32 diwrnod |
| Mae’r gyfradd y mae ein pobl yn gadael Gwasanaeth Erlyn y Goron a rhywun yn cymryd eu lle (trosiant ein gweithwyr) yn 7% neu lai, er mwyn cynnal ein capasiti i fynd i’r afael â’r galw, sicrhau bod ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a’n bod yn lleihau’r amser a’r ymdrech sy’n cael ei dreulio ar recriwtio ychwanegol. | ≤7% |
| Ar gyfartaledd, mae gweithwyr yn absennol oherwydd salwch am 8 diwrnod neu lai, er mwyn sicrhau bod ein pobl yn cael eu cefnogi a’n bod yn cynnal ein capasiti i fynd i’r afael â’r galw a thrwy hynny leihau oedi. | ≤8diwrnod |
Eleni, byddwn yn cynyddu ein gallu drwy wneud y canlynol:
- Cryfhau sgiliau ac arweinyddiaeth
- Arfogi ein pobl i weithio’n effeithiol
- Meithrin diwylliant cynhwysol a chefnogol
| Rhaglen | Byddwn yn: | Erbyn: |
|---|---|---|
| Strategaeth Adfocatiaeth | Cynyddu nifer yr Adfocatiaid y Goron mewnol sydd gennym 25% er mwyn cynyddu ein capasiti i wneud gwaith Llys y Goron a mynd i’r afael â’r galw a darparu gwell gwasanaeth i’r cyhoedd. | 31 Mawrth 2027 |
| Cyflawni’r Cynllun Bwrsariaethau Hawliau Uwch i Ymddangos yn y Llys er mwyn buddsoddi yn ein pobl a’u datblygiad. | 31 Mawrth 2027 | |
| Gwelliant Parhaus | Cwblhau adolygiad llawn o’n prosesau gweithredol a disodli’r hen Weithdrefnau Gweithredu Safonol â Modelau Gweithredu Cenedlaethol newydd er mwyn gwella cysondeb ac effeithlonrwydd, gan leihau oedi a dyblygu ar draws y system a darparu gwerth gwell. | 30 Medi 2026 |
| Darparu hyfforddiant a chymorth pwrpasol i 11 o Feysydd er mwyn iddynt allu gwreiddio egwyddorion Gwelliant Parhaus i rymuso ein harweinwyr a’u timau er mwyn gwella effeithlonrwydd, lleihau oedi a darparu gwerth gwell i drethdalwyr. | 31 Mawrth 2027 | |
| Trawsnewid y Gweithlu | Gweithredu gwelliannau i hyfforddiant, goruchwyliaeth a chymorth rheoli llinell i sicrhau bod ein herlynwyr newydd yn gwbl gynhyrchiol yn gyflymach ac yn gallu symud ymlaen i rolau lle mae’r galw mwyaf am ein gweithlu. | 31 Hydref 2026 |
| Disodli’r system rydym yn ei defnyddio i olrhain ceisiadau am swyddi a dod â gweithwyr newydd i Wasanaeth Erlyn y Goron gyda llwyfan newydd sy’n haws ei ddefnyddio ac sy’n rhoi gwybodaeth fwy cywir er mwyn ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach i gael staff newydd, a gallwn gynyddu ein capasiti’n gyflymach. | 31 Rhagfyr 2026 | |
| Byddwn yn mireinio ein ffordd o ddefnyddio a lleoli Erlynwyr y Goron ac Uwch Erlynwyr y Goron i sicrhau bod eu gwaith yn parhau i roi boddhad, yn hwyluso datblygiad proffesiynol parhaus, ac yn gwella ein gallu a’n capasiti. Bydd y gwelliannau hyn yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r galw’n fwy effeithiol a lleihau oedi. | 30 Medi 2026 |