Skip to main content

Ein gweledigaeth, pwrpas & gwerthoedd

Ein gweledigaeth

Rydym yn bartner dibynadwy yn y gwaith o drawsnewid system cyfiawnder troseddol sy’n gwneud y cyhoedd yn fwy diogel 

Ein pwrpas 

Rydym yn erlyn achosion troseddol sydd wedi bod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu a sefydliadau ymchwilio eraill yng Nghymru a Lloegr

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn:

Penderfynu pa achosion y dylid eu herlyn ar sail y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron 

Darparu gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr a thystion yr erlyniad.

Paratoi achosion ac yn eu cyflwyno yn y llys

Penderfynu ar y cyhuddiadau priodol mewn achosion mwy difrifol neu gymhleth ac yn cynghori’r heddlu yn ystod camau cynnar ymchwiliadau

Ein gwerthoedd 

Trin pawb â pharch. Byddwn yn parchu ein gilydd, ein cydweithwyr a'r cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu, gan gydnabod bod yna bobl y tu ôl i bob achos.

Bod yn onest ac yn agored. Byddwn yn egluro ein penderfyniadau, yn gosod safonau clir ynglŷn â'r gwasanaeth y gall y cyhoedd ei ddisgwyl gennym ac yn bod yn onest os byddwn yn gwneud camgymeriad.

Bod yn annibynnol ac yn deg. Byddwn yn erlyn yn annibynnol, heb ragfarn a byddwn yn ceisio sicrhau cyfiawnder ym mhob achos.

Ymddwyn yn broffesiynol ac anelu at ragoriaeth. Byddwn yn gweithio fel un tîm, gan chwilio am ffyrdd newydd a gwell o ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd. Byddwn yn effeithlon ac yn gyfrifol gydag arian trethdalwyr.

Loading...