Skip to main content

Rhagair

Stephen Parkinson profile photo

“Ein nod yw sicrhau cyfiawnder drwy erlyniadau annibynnol, teg ac effeithiol.”

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn chwarae rhan unigryw yn y system cyfiawnder troseddol. Rydym yn gweithio gyda’r heddlu a’r llysoedd i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell, cefnogi dioddefwyr a thystion, a chadw’r cyhoedd yn ddiogel.

Yn 2025, fe wnaethom gyhoeddi ein strategaeth ar gyfer 2030. Mae’r cynllun busnes hwn yn nodi sut byddwn yn gwneud cynnydd yn 2026-27 drwy feithrin gallu, gwella ansawdd gwaith achos a sut rydym yn cefnogi dioddefwyr, lleihau oedi, ac ennill ymddiriedaeth.

Rydym yn wynebu heriau sylweddol. Mae llwythi achosion yn cynyddu, mae ein staff dan bwysau, ac mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir am gyfiawnder. Mae diwygiadau’n ail-lunio’r ffordd rydym yn gweithio, ac mae ein partneriaethau ar draws y system yn bwysicach nag erioed.

Rydym wedi gwneud cynnydd cadarn ers lansio ein strategaeth ar gyfer 2030. Mae llawer o raglenni a chynlluniau peilot ar y gweill i’n gwneud yn fwy effeithlon ac effeithiol, gan ein helpu i sicrhau cyfiawnder yn gyflymach. Rydym wedi cyflwyno swyddogion cyswllt dioddefwyr, ac rydym yn treialu ffyrdd newydd o weithio er mwyn darparu gwasanaeth cefnogol i ddioddefwyr. Rydym hefyd yn gwella’r ffordd rydym yn erlyn achosion o dreisio, cam-drin domestig a thrais arall yn erbyn menywod a merched, gan gefnogi cenhadaeth y llywodraeth i haneru nifer y troseddau hyn.

Yn 2026-27, rydym yn diwygio ein prosesau o’r dechrau i’r diwedd, o’r adeg y caiff pobl eu derbyn am y tro cyntaf i’r adeg y cânt eu dedfrydu, gan gael gwared ar waith diangen a dyblygu. Rydym yn awtomeiddio gwaith arferol ac yn arbrofi â deallusrwydd artiffisial i arbed oriau o ymdrech. Rydym hefyd yn cyflwyno achosion yn gynharach i annog pobl i bledio’n euog, ac yn meithrin perthynas gryfach â’r heddlu er mwyn cyflymu’r broses o wneud penderfyniadau.

Mae ein staff eithriadol wedi ymrwymo i erlyniadau annibynnol, teg ac effeithiol. Rwy’n hyderus y byddant yn arwain y newid hwn ac yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl.

Stephen Parkinson
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus

Loading...