Skip to main content

Ein pwrpas

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wrth galon y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr, gan weithio gyda’n partneriaid i sicrhau cyfiawnder drwy erlyniadau cyhoeddus annibynnol, teg ac effeithiol. Eleni, byddwn yn cyflawni hyn drwy gynyddu gallu, gwella ansawdd gwaith achos, lleihau oedi, a meithrin ymddiriedaeth.

Yn y bôn, rôl Gwasanaeth Erlyn y Goron yw: 

  • Penderfynu a ddylid erlyn achosion - mae pob penderfyniad cyhuddo yn seiliedig ar yr un prawf dau gam a nodir yn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron;
  • Pennu’r cyhuddiadau priodol mewn achosion mwy difrifol neu gymhleth, a chynghori’r heddlu yn ystod camau cynnar ymchwiliadau; 
  • Paratoi achosion a’u cyflwyno yn y llys; 
  • Darparu gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr a thystion dros yr erlyniad. 

Nid ydym yn ymchwilio i droseddau nac yn dewis pa achosion i’w hystyried; rhaid i’n herlynwyr adolygu pob achos sy’n cael ei gyfeirio atom gan yr heddlu neu gan ymchwilwyr eraill. Rydym yn darparu cyngor cyfreithiol arbenigol yn gynnar mewn ymchwiliadau i helpu i adeiladu achosion cryf neu i nodi achosion lle na ddylid cyhuddo unigolyn dan amheuaeth.

Rydym yn gwneud ein penderfyniadau yn annibynnol ar yr heddlu ac ar y llywodraeth. Rhaid i ni fod yn deg, yn wrthrychol ac yn ddiduedd bob amser i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr, i dystion, i ddiffynyddion ac i’r cyhoedd. Ein rôl yw sicrhau bod pob achos sy’n bodloni prawf y Cod yn mynd gerbron y llysoedd. 

Loading...