Rhagair
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn chwarae rôl hollbwysig yn y system cyfiawnder troseddol (CJS), gan weithio gyda’r heddlu a’r llysoedd i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell, cefnogi dioddefwyr a thystion, a sicrhau diogelwch y cyhoedd. Nod y CPS yw sicrhau cyfiawnder drwy erlyniadau cyhoeddus annibynnol, teg ac effeithiol. Mae’r cynllun busnes yn amlinellu sut byddwn yn cyflawni hyn drwy gynyddu gallu, gwella ansawdd gwaith achos, lleihau oedi, a meithrin ymddiriedaeth.
Er ein bod yn gweithredu mewn byd ansicr sy’n newid yn barhaus, gyda llwythi achosion uchel a chymhleth, rydym yn benderfynol o wella ein gwasanaeth i ddioddefwyr a gweithio’n effeithiol gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol i fynd i’r afael â heriau cyffredin. Mae’r sefydliad yn ymroddedig ac yn addasadwy, gydag 14 ardal ddaearyddol a CPS Direct yn darparu gwasanaeth cyflym ledled Cymru a Lloegr.
Mae ymrwymiad ein staff yn eithriadol, ac mae cyfleoedd i wella’n barhaus. Nod y sefydliad yw bod yn fwy effeithiol a chydweithredol, gan ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i ddioddefwyr ac ennill ymddiriedaeth y cyhoedd.
Stephen Parkinson
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus
