Skip to main content

Llywodraethu

Fel rhan o feithrin ymddiriedaeth yn ein gwaith, rydym yn awyddus i rannu ein cynlluniau ar gyfer 2024/25, yn ogystal hefyd ag esbonio sut rydym yn bwriadu mesur ac adrodd ar ein cynnydd. 

Bydd llywodraethu cynllun busnes 2024/25 yn effeithiol yn hanfodol er mwyn monitro’r ddarpariaeth a chynnal atebolrwydd o fewn ein tîm gweithredol, gan sicrhau bod ein Bwrdd, y cyhoedd a’n partneriaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn erbyn strategaeth ein sefydliad. 

Drwy’r trefniadau llywodraethu presennol, byddwn yn adrodd yn rheolaidd ar wybodaeth rheoli berthnasol yn ogystal â chynnydd yn erbyn amserlenni, buddion a’n mesurau llwyddiant. Byddwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau – nid allbynnau’n unig – er mwyn sicrhau dealltwriaeth gywir o effaith ehangach ein gwaith. Mae ein strwythur adrodd yn ein helpu i nodi ac i ddeall risgiau, gofynion sy’n newid a chyfleoedd yn gynnar, gan ailasesu’r ffordd orau ymlaen yn rheolaidd ac adolygu sut rydym yn mesur llwyddiant i sicrhau bod hyn yn adlewyrchu unrhyw ofynion sy’n newid neu flaenoriaethau sy’n newid. 

Gweledigaeth genedlaethol yw’r cynllun hwn, ond bwriedir iddo hefyd fod yn fframwaith clir ar gyfer cynllunio lleol, lle bo’n berthnasol. Bydd arweinwyr lleol yn datblygu cynlluniau gweithredu – gan ddilyn y nodau a fynegir yn y cynllun busnes ac ystyried yn benodol sut gellir eu cyflawni ar lefel leol. Rydym hefyd yn disgwyl, lle bynnag y bo modd, y bydd nodau datblygu personol a gyrfaoedd unigolion yn cydfynd â’r blaenoriaethau a amlinellir uchod.

FforwmCrynodeb o’r atebolrwyddauRôl yn y gwaith o lywodraethu’r cynllun busnesPa mor aml mae adrodd
Grŵp Gweithredol (EG)Bod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau, gan ganolbwyntio ar gynnal prosesau a gweithdrefnau effeithlon ac effeithiol; dal SROs i gyfrif a chyfrifoldeb cyffredinol dros gydymffurfio â pholisïau Gwasanaeth Erlyn y Goron.Tracio cynnydd cynlluniau ac adrodd yn erbyn amserlenni, cyllidebau a chanlyniadau.Chwarterol
Mesurau llwyddiant.Chwarterol
Bwrdd Gwasanaeth Erlyn y GoronSwyddogaethau ar lefel strategol i oruchwylio cynnydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn erbyn strategaeth CPS 2025 a’r weledigaeth hirdymorTracio yn erbyn CPS 2025 a mesurau llwyddiantChwarterol
Bwrdd Strategol
Gweinidogol (AGO/Gwasanaeth
Erlyn y Goron)
Goruchwylio cyfeiriad strategol Gwasanaeth Erlyn y Goron a mynd ati ar y cyd i ddwyn y Gwasanaeth i gyfrif o ran cyflawni ei amcanion strategol.Cymeradwyo'r cynllun busnes. Adolygu perfformiad, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ystod y flwyddyn.Chwarterol
Arweinyddiaeth
Ranbarthol (Ardaloedd ac Isadrannau)
Monitro cynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu lleol fel rhan o fforymau Adolygu Perfformiad Ardal.AMH (llywodraethu eu ynlluniau eu hunain).Chwarterol

Mae rhagor o wybodaeth am ein sefydliad a’n gweledigaeth hirdymor ar gael yn ein Strategaeth CPS 2025.

Loading...