Ein crynodeb ariannol
Mae’r crynodeb isod yn nodi prif elfennau gwariant Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth lefel uchel am y mathau o wariant a nodir.
Mae ein gwariant ar gyfer 2024/25 yn cael ei ariannu o setliad yr Adolygiad o Wariant ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron gan Drysorlys EM ac incwm
| Crynodeb o gyllid RDEL Cyllidol Gwasanaeth Erlyn y Goron a chyllid CDEL 2024/25 | |
|---|---|
| Gwariant adnoddau cyllidol net (RDEL) | £751.5m |
| Cyfalaf Cyllidol (CDEL) | £2.8m |
| Cyfanswm RDEL cyllidol a chyllid CDEL | £754.3m |
Mae’r tabl uchod yn nodi cyllid Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer 2024/25, wedi’i fynegi fel gwariant Adnoddau cyllidol (RDEL) a Chyfalaf cyllidol (CDEL).
Mae gwariant adnoddau (RDEL) yn arian sy’n cael ei wario ar adnoddau a chostau gweinyddu o ddydd i ddydd. Mae’n cynnwys llogi asiantau, costau erlyn, costau atafaelu enillion troseddau, meithrin gallu yn y system cyfiawnder troseddol, cefnogi mudiadau’r sector gwirfoddol yn y system cyfiawnder troseddol a dibrisiant. Mae cyllid RDEL yn cael ei ddangos heb gynnwys incwm, gan gynnwys yr hyn sy’n deillio o gostau a ddyfarnwyd i’r Gwasanaeth Erlyn y Goron yn y llys neu a gafwyd drwy’r Cynllun Cymell Adfer Asedau. Rydym yn defnyddio model costio manwl sy’n seiliedig ar weithgareddau i asesu’r adnoddau sydd eu hangen er mwyn ateb y galw a ragwelir.
Mae gwariant cyfalaf cyllidol (CDEL) yn arian sy’n cael ei wario ar ystadau a chyfarpar cyfalaf TG a fydd yn cael eu defnyddio am fwy nag un flwyddyn ariannol. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron hefyd yn cael cyllid cyfalaf ar gyfer prydlesi tymor hir fel y’u diffinnir gan IFRS16 ac mae hyn yn cael ei gwblhau’n gyffredinol yn yr Amcangyfrif Atodol.
Hefyd, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn derbyn cyllid ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) sy’n cynnwys symudiadau mewn darpariaethau fel dileu a newidiadau mewn lwfans ar gyfer dyledion na ellir eu hadennill a darpariaethau ar gyfer dadfeilio mewn adeiladau.
Yn unol â’r amgylchedd ariannol ehangach, rydym yn parhau i sicrhau bod ein huchelgeisiau’n adlewyrchu ein cwmpas cyllido. Mae’r rhan fwyaf o’n gwariant yn mynd ar ein gweithlu mewnol, yn enwedig cyflogau staff rheng flaen a staff cyfreithiol. Mae’r gwariant hwn wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dilyn y buddsoddiad a gawsom gan Drysorlys EM, sy’n ein galluogi i gyflawni ymgyrch recriwtio sylweddol i gefnogi’r adferiad gweithredol.
Bydd cyllideb 2024/25 yn parhau i fuddsoddi mewn arloesed a gallu digidol, gan gynrychioli ymrwymiadau clir i ddarparu gwasanaethau gwell, i fynd i’r afael â’r newidiadau yn natur troseddu ac i wella’r ffordd mae cyfiawnder yn cael ei sicrhau.
Rhagamcan o’r Gwariant
| Cyllideb | £m | % o gyfanswm y gyllide |
|---|---|---|
| Incwm | -£52.0m | -7% |
| Costau Gweithlu Allanol a’r Llysoedd | £205.0m | 27% |
| Costau Cyflog Staff Cyfreithiol a Rheng flaen | £419m | 56% |
| Costau Cyflog Swyddfa Gefn | £62m | 8% |
| TG a Thechnoleg | £55.0m | 7% |
| Costau Adeilad | £21m | 3% |
| Arall | £44m | 6% |