Llywodraethu
Fel rhan o feithrin ymddiriedaeth yn ein gwaith, rydym yn awyddus i rannu ein cynlluniau ar gyfer 2022/23, yn ogystal hefyd ag esbonio sut rydym yn bwriadu mesur ac adrodd ar ein cynnydd.
Bydd llywodraethu cynllun busnes 2022/23 yn effeithiol yn hanfodol er mwyn monitro’r ddarpariaeth a chynnal atebolrwydd o fewn ein tîm gweithredol, gan sicrhau bod ein Bwrdd, y cyhoedd a’n partneriaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn erbyn strategaeth ein sefydliad.
Drwy’r trefniadau llywodraethu presennol, byddwn yn adrodd yn rheolaidd ar wybodaeth rheoli berthnasol yn ogystal â chynnydd yn erbyn amserlenni, canlyniadau strategol a’n mesurau llwyddiant.
Byddwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau – nid allbynnau’n unig – er mwyn sicrhau dealltwriaeth gywir o effaith ehangach ein gwaith. Mae ein strwythur adrodd yn ein helpu i nodi ac i ddeall risgiau, gofynion sy’n newid a chyfleoedd yn gynnar, gan ailasesu’r ffordd orau ymlaen yn rheolaidd ac adolygu sut rydym yn mesur llwyddiant i sicrhau bod hyn yn adlewyrchu unrhyw ofynion sy’n newid neu flaenoriaethau sy’n newid.
Gweledigaeth genedlaethol yw’r cynllun hwn, ond bwriedir iddo hefyd fod yn fframwaith clir ar gyfer cynllunio lleol. Bydd arweinwyr lleol yn datblygu cynlluniau gweithredu penodol – gan gymryd y nodau a fynegir yn y cynllun busnes a mynd ati’n benodol i ystyried sut gellid eu cyflawni ar lefel leol. Rydym hefyd yn gobeithio, lle bynnag y bo modd, y bydd nodau datblygu personol a gyrfaoedd unigolion yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau a amlinellir uchod.
| Fforwm | Crynodeb o’r atebolrwyddau | Rôl yn y gwaith o lywodraethu’r cynllun busnes | Pa mor aml mae adrodd |
|---|---|---|---|
| Grŵp Gweithredol (EG) | Bod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau sy’n sail i weithgarwch busnes-fel-arfer, gan ganolbwyntio ar gynnal prosesau a gweithdrefnau craidd effeithlon ac effeithiol – gan gynnwys rheoli perfformiad. Cyfrifoldeb cyffredinol dros gydymffurfio â pholisïau Gwasanaeth Erlyn y Goron. | Tracio cynnydd cynlluniau ac adrodd yn erbyn amserlenni, cyllidebau a chanlyniadau. Bydd y Grŵp Gweithredol hefyd yn monitro risgiau’r cynllun busnes a’r cynnydd o ran ymateb i argyfwng y coronafeirws. | Misol a Chwarterol |
| Mesurau llwyddiant. | Chwarterol | ||
| Bwrdd Gwasanaeth Erlyn y Goron | Swyddogaethau ar lefel strategol i oruchwylio cynnydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn erbyn strategaeth CPS 2025 a’r weledigaeth hirdymor | Tracio yn erbyn CPS 2025, mesurau llwyddiant a’n hymateb i argyfwng y coronafeirws (COVID-19). | Chwarterol |
| Bwrdd Strategol Gweinidogol (AGO/Gwasanaeth Erlyn y Goron) |
Goruchwylio cyfeiriad strategol Gwasanaeth Erlyn y Goron a mynd ati ar y cyd i ddwyn y Gwasanaeth i gyfrif o ran cyflawni ei amcanion strategol. | Cymeradwyo'r cynllun busnes. Adolygu perfformiad, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ystod y flwyddyn. | Chwarterol |
| Arweinyddiaeth Ranbarthol (Ardaloedd ac Is-adrannau) | Monitro cynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu lleol fel rhan o fforymau Adolygu Perfformiad Ardal. | AMH (llywodraethu eu cynlluniau eu hunain). | Chwarterol |
Mae rhagor o wybodaeth am ein sefydliad a’n gweledigaeth hirdymor ar gael yn ein Strategaeth CPS 2025.