Skip to main content

Ein crynodeb ariannol

Mae’r crynodeb isod yn nodi prif elfennau gwariant Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth lefel uchel am y mathau o wariant a nodir.

Mae ein gwariant ar gyfer 2022/23 yn cael ei ariannu o gyllidebau y cytunwyd arnynt yn ganolog a weinyddir gan Drysorlys EM.
Mae’r dyraniad cyllideb yn cael ei fynegi fel net o’r incwm perthnasol, a bydd angen gosod unrhyw ddiffyg mewn rhagamcan o’r incwm yn erbyn y cynilion mewn gwariant.

Crynodeb o gyllid Gwasanaeth Erlyn y Goron 2022/23
Gwariant adnoddau net (RDEL) *£713.10m
Cyfalaf (CDEL) **£2.8m
Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) ***£6.45m

*Mae RDEL net yn cynnwys Cyfnewid Cyllideb gwerth £12m o 2021/22 ymlaen, heb gynnwys y £12m hwn, byddai RDEL Net yn £701.10m
**Mae CDEL yn ein Llythyr Setliad yn £2.8m, ond mae’r ffigur hwn yn dangos addasiadau cyn IFRS16.
***Mae AME yn cynnwys AME Cyfalaf (£0.5m) ac AME Adnoddau (£5.95m)

Mae’r tabl uchod yn nodi cyllid Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer 2022/23, wedi’i fynegi fel gwariant Adnoddau (RDEL), Cyfalaf (CDEL) a Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME). 

Mae gwariant adnoddau (RDEL) yn arian sy’n cael ei wario ar adnoddau a chostau gweinyddu o ddydd i ddydd. Mae’n cynnwys llogi asiantau, costau erlyn, costau atafaelu enillion troseddau, meithrin gallu yn y system cyfiawnder troseddol, cefnogi mudiadau’r sector gwirfoddol yn y system cyfiawnder troseddol a dibrisiant. Mae cyllid RDEL yn cael ei ddangos heb gynnwys incwm, gan gynnwys yr hyn sy’n deillio o gostau a ddyfarnwyd i’r Gwasanaeth Erlyn y Goron yn y llys neu a gafwyd drwy’r Cynllun Ysgogi Asedau a Adferwyd. Rydym yn defnyddio model costio manwl sy’n seiliedig ar weithgareddau i asesu’n gywir yr adnoddau sydd eu hangen er mwyn bodloni’r galw a ragwelir. 

Mae gwariant cyfalaf (CDEL) yn arian sy’n cael ei wario ar asedau a fydd yn cael eu defnyddio am fwy nag un flwyddyn ariannol. Mae Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) yn cynnwys symudiadau mewn darpariaethau fel dileu a newidiadau mewn lwfans ar gyfer dyledion na ellir eu hadennill a darpariaethau ar gyfer dadfeilio mewn adeiladau. 

Mae’r rhan fwyaf o’n gwariant yn mynd ar ein gweithlu mewnol, yn enwedig cyflogau staff rheng flaen a staff cyfreithiol. Mae’r gwariant hwn wedi cynyddu yn dilyn y buddsoddiad a gawsom gan Drysorlys EM, sy’n ein galluogi i gyflawni’r ymgyrch recriwtio fwyaf uchelgeisiol yn ein hanes. Rydym hefyd yn gwneud penderfyniadau i bennu capasiti a gallu’r gweithlu yn y dyfodol sydd ei angen i reoli adferiad gweithredol yn effeithiol, gan gynyddu RASSO a gwaith achos cymhleth arall, a pharhau i feithrin hyder yn ein gwasanaethau. 

Bob dydd, mae gwaith gwerthfawr iawn yn cael ei wneud ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron gan y Bar allanol, sy’n gofyn am gynllun ffioedd ar gyfer y dyfodol sy’n deg ac yn fforddiadwy. Mae ein gwariant yn 2022/23 o dan y Gweithlu Allanol a’r Llysoedd yn adlewyrchu’r cynnydd yn y taliadau y cytunwyd arnynt yn dilyn adolygiad o’n cynlluniau ffioedd yn 2019. Mae’r rhan arall o’r gwariant hwn yn mynd tuag at gefnogi dioddefwyr a thystion sy’n dod i’r llys. 

Mae cyllideb 2022/23 hefyd yn caniatáu rhywfaint o fuddsoddiad bach parhaus mewn arloesi a gallu digidol. Mae buddsoddiadau o’r fath yn dal i fod yn bwysig wrth fynd i'r afael â’r newidiadau yn natur troseddu ac i wella’r ffordd mae cyfiawnder yn cael ei gyflawni.

Rhagamcan o’r Gwariant

Cyllideb £m % o gyfanswm y gyllideb
Incwm -£40.70m 5%
Costau Gweithlu Allanol a’r Llysoedd £184.74m 23%
Costau Cyflog Staff Cyfreithiol a Rheng flaen £392.97m 50%
Costau Cyflog Swyddfa Gefn £27.87m 4%
TG a Thechnoleg £65.80m 8%
Costau Adeilad £33.40m 4%
Arall £49.15m 6%

 

Cyllideb 2021/22 hyd at 2022/23 (fm)

Cyllideb Cyfanswm Cynyddu Gostyngiad
RDEL heb gynnwys dibrisisant (Bud 21-22) £633.32m    
Erlyniad £629.59m   £3.73m
Staff £621.81m   £7.78m
Digidol Corfforaethol £617.5m   £4.31m
Ystadau £615.75m   £1.75m
DUP £607.37m   £8.38m
Incwm £607.37m £1.62m  
Arall £608.99m £19.97m  
RDEL heb gynnwys dibrisisant (10 + 2 FC 21-22) £628.96m    
Erlyniad £628.96m £12.27m  
Staff £641.23m £25.71m  
Digidol Corfforaethol £666.94m £3.83m  
Ystadau £670.77m £13.14m  
DUP £683.91m £9.07m  
Incwm £692.98m £10.68m  
Arall £703.66m £9.44m  
RDEL heb gynnwys dibrisisant (Bud 22-23) £713.1m    

Loading...