Skip to main content

Ein Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Rydym wedi datblygu cyfres o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer 2025-2026 i fesur cynnydd yn erbyn ein canlyniadau a’n blaenoriaethau strategol. Bydd y mesurau hyn yn ein galluogi i weld effaith ein gwaith i sicrhau ein bod yn cyflawni ein blaenoriaethau, ac mae uwch arweinwyr yn craffu ar y rhain yn rheolaidd. 

BlaenoriaethDangosyddion Perfformiad Allweddol 2025-2026
Cynyddu ein gallu
  • Byddwn yn cynyddu proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg ein llywodraeth i 3.5% o’r gweithlu erbyn 31 Mawrth 2026. 
  • I bobl sy’n ymuno â ni, byddwn yn gwneud yn siŵr nad yw’r cyfnod rhwng derbyn cynnig cyflogaeth a chontract wedi’i lofnodi yn fwy na 32 diwrnod gwaith, ar gyfartaledd. 
  • Mae 75% o’n Heiriolwyr y Goron Lefel 1 yn cael dyrchafiad i Lefel 2 o fewn blwyddyn.
Gwella ansawdd gwaith achos
  • O’r rheini sy’n pledio’n euog yn y Llys Ynadon, bydd o leiaf 76% yn gwneud hynny yn y Gwrandawiad Cyntaf.
  • O’r rheini sy’n pledio’n euog yn Llys y Goron, bydd o leiaf 38% yn gwneud hynny yn y Gwrandawiad Cyntaf. 
Lleihau oedi yn y CJS
  • Bydd o leiaf 75% o’n hadolygiadau neu benderfyniadau cyhuddo yn cael eu gwneud cyn pen 28 diwrnod.
  • Bydd o leiaf 95% o ddatgeliadau cychwynnol achosion erlyn yn cael eu cyflwyno o fewn 5 diwrnod i’r gwrandawiad cyntaf yn y Llys Ynadon. 
  • Bydd o leiaf 80% o’r datgeliadau cychwynnol yn cael eu cyflwyno cyn y Gwrandawiad Paratoi ar gyfer Treial a Phledio, neu yn unol â chyfarwyddyd Llys y Goron. 
  • Bydd ein System Rheoli Achosion Digidol graidd ar gael i’n pobl o leiaf 99.9% o’r amser gweithredol sydd wedi’i gynllunio.
Cynyddu ymddiriedaeth yn y CPS
  • Bydd o leiaf 87% o’n llythyrau at ddioddefwyr yn cael eu hanfon o fewn y safonau prydlondeb.
  • Bydd o leiaf 97% o anfonebau a gymeradwywyd a hawliadau treuliau tystion yn cael eu setlo o fewn 10 diwrnod i’w derbyn.
  • Byddwn yn cynyddu cyfran y bobl sy’n hyderus bod y CJS yn erlyn y person cywir am y drosedd gywir (2024: 58%). 
Loading...