Trosolwg o gynllun cyflawni 2024/25
Mae’r trosolwg isod yn tynnu sylw at ein prif raglenni gwaith a’u cerrig milltir allweddol ar gyfer 2024/25 wedi’u grwpio yn ôl eu prif themâu a chanlyniadau, fel y nodir yn ein Strategaeth CPS 2025. Mae’r cerrig milltir hyn yn seiliedig ar dybiaethau cynllunio sy’n adlewyrchu’r adnoddau a’r cyfyngiadau presennol. Bydd y cynllun busnes hwn yn cyfrannu hefyd at y gwaith o gyflawni’r canlyniadau blaenoriaeth y cytunwyd arnynt yn yr Adolygiad diwethaf o Wariant.
Ein Pobl
| Canlyniad strategol | Prosiect | Amcan | Cerrig milltir |
|---|---|---|---|
| Mae gan ein pobl y sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnynt i ffynnu | Gweithlu Strategol | Cynllunio systematig a rhagweithiol i sicrhau y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu’r capasiti, y gallu a’r diwylliant cywir ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol ar yr adeg iawn er mwyn cyflawni blaenoriaethau’r Gwasanaeth a’i weledigaeth hirdymor. |
|
| Erlyniad yn Gyntaf | Meithrin gallu troseddol yn y Bar, cadw Bargyfreithwyr sydd newydd gymhwyso mewn cyfraith droseddol a darparu adnoddau hyblyg, tymor byr i Wasanaeth Erlyn y Goron. |
|
Gallu Digidol
| Canlyniad strategol | Prosiect | Amcan | Cerrig milltir |
|---|---|---|---|
| Rydym yn rhagweithiol wrth fuddsoddi yn ein gallu digidol | Offer Gwaith Achos | Darparu offer gwaith achos newydd i gynyddu cynhyrchiant, gwella ansawdd gwaith achos a phrofiad defnyddwyr |
|
| Rydym yn arloesi, gan gynnwys gyda thechnoleg ddatblygol | Arloesi Digidol | Darparu datblygiadau digidol allweddol. |
|
Ansawdd Gwaith Achos
| Canlyniad strategol | Prosiect | Amcan | Cerrig milltir |
|---|---|---|---|
| Mae’r person cywir yn cael ei erlyn am y drosedd gywir | Model Gweithredu’r Uned Treisio a Throseddau Rhywiol Difrifol | Datblygu model gweithredu cenedlaethol newydd ar gyfer treisio oedolion, gan wella ein hymateb a’n perfformiad mewn cysylltiad ag erlyniadau treisio |
|
| Mae achosion yn mynd rhagddynt yn brydlon | Strategaeth Eiriolaeth | Sicrhau gwasanaethau eiriolaeth cadarn o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion y busnes |
|
| Delio ag achosion yn effeithiol | Strategaeth Achosion | Penderfyniadau erlynwyr yn gwrthsefyll craffu ac yn darparu gwell canlyniadau. |
|
| Gwelliant Parhaus | Gwella prosesau, dileu gwastraff, gwella canlyniadau ansawdd a pherfformiad gan ddarparu gwasanaeth gwerthfawr. |
| |
| Mae ansawdd ein gwaith achos yn gwella drwy weithio mewn partneriaeth | Cyd-gynllun Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig | Creu Cyd-gynllun Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig gyda Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu i wella’r gwaith o ymchwilio i achosion o gam-drin domestig a’u herlyn yn llwyddiannus, gan sicrhau ffocws ar ddiwallu anghenion dioddefwyr cam-drin domestig. |
|
Hyder y Cyhoedd
| Canlyniad strategol | Prosiect | Amcan | Cerrig milltir |
|---|---|---|---|
| Mae dioddefwyr a thystion yn cael profiad teg wrth ryngweithio â ni, waeth beth fo'r canlyniad. | Strategaeth Trais yn erbyn Merched | Creu Strategaeth Trais yn erbyn Merched i fynd i’r afael â themâu trawsbynciol er mwyn gwella’r ffordd o reoli achosion Trais yn erbyn Merched. |
|
| Rhaglen Trawsnewid i Ddioddefwyr | Darparu model gwasanaeth newydd sydd wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion dioddefwyr. |
| |
| Rydym yn deall y ffordd orau i wasanaethu ein cymunedau amrywiol | Anghymesuredd | Deall a rhoi sylw i unrhyw wahaniaethau o ran rhyw, oedran a hil mewn penderfyniadau ynghylch cyhuddiadau, a sicrhau bod diffynyddion yn cael eu trin yn deg. |
|