Ein hamgylchedd gweithredu a’r heriau
Mae cynllun busnes Gwasanaeth Erlyn y Goron yn nodi ein blaenoriaethau trawsnewid ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond wrth wneud hynny rhaid iddo hefyd allu ymateb i’r amgylchedd rydym yn gweithio ynddo. Mae ein cyd-destun gweithredu yn heriol ac yn esblygu – yn y flwyddyn i ddod, bydd angen i ni gydbwyso dymuniad i gyflawni newidiadau pwysig gyda phragmatiaeth a hyblygrwydd i lwyddo.
Rydym yn parhau i ymdrechu i gyflawni ein hymrwymiadau CPS 2025. Rydym yn dal i wynebu ôl-groniad sylweddol o achosion oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys gwaddol y pandemig a gweithredu diwydiannol gan y Bar. Rydym hefyd yn cydnabod bod hon wedi bod yn flwyddyn heriol ar draws y llywodraeth, gyda phwysau economaidd yn effeithio ar flaenoriaethau cyllido. Er mwyn ymateb i’r heriau hyn, mae angen i’n cynlluniau cyflawni gweithredol sicrhau ein bod mor effeithiol â phosibl. Drwy wella’n barhaus, rydym yn ceisio symleiddio ein prosesau a chael gwared ar ddyblygu, gan helpu ein pobl i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel.
Mae digideiddio gwybodaeth a phrosesau yn parhau i weddnewid y system cyfiawnder troseddol, gan gyflwyno heriau mawr a chyfleoedd sydd yr un mor arwyddocaol. Rydym yn manteisio ar hyn drwy fuddsoddi mewn offer, systemau a phrosesau digidol, a sicrhau bod modd rhannu gwybodaeth yn ddiogel ac yn effeithlon gyda’n partneriaid. Rydym wedi ymrwymo i raglenni sy’n ceisio digideiddio prosesau, gan gynnwys Bwndeli Digidol i Reithgorau, gwella ansawdd ffeiliau achos, a gwella effeithlonrwydd a phrofiad defnyddwyr ar draws y system cyfiawnder troseddol.
Yn amlwg, mae’r cyhoedd yn dal i graffu ar ein gwaith o erlyn rhai o’r troseddau mwyaf cymhleth ac erchyll, yn enwedig achosion treisio a throseddau rhywiol difrifol. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i wella erlyniadau treisio a throseddau rhywiol difrifol, a phrofiadau dioddefwyr a thystion. Mae maint yr her yn cael ei hadlewyrchu drwy’r cynllun hwn, sy’n cynnwys Model Gweithredu’r Uned Trais a Throseddau Rhywiol Difrifol, y Cyd-gynllun Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig, y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched a’r Rhaglen Trawsnewid Dioddefwyr. Mae’r gwaith hwn yn digwydd ar draws y system, gan ymestyn ar draws Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr heddlu a’r llysoedd – dim ond gyda’n gilydd y gallwn sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr.
Rydym yn adolygu ein prosesau a’n penderfyniadau yn barhaus gan ddeall yr effaith y mae ein penderfyniadau yn ei chael ar fywydau pobl. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein penderfyniadau yn deg ac yn gymesur i bawb, gan ystyried nodweddion gwarchodedig yn y ffordd rydym yn ymdrin â’n gwaith achos. Mae ein gwaith ar anghymesuredd yn y system yn parhau i fod yn flaenoriaeth sylweddol a bydd yn dod ag ymchwil o ansawdd uchel ynghyd gyda chynlluniau gweithredu penodol i fynd i’r afael â materion allweddol.
Ni fydd cyflawni’r heriau hyn a’r rhaglen waith uchelgeisiol a amlinellir yma yn bosibl heb y bobl iawn yn eu lle. Byddwn yn gweithio’n ddiflino i leihau cyfradd gadael ein staff cyfreithiol arbenigol, yn ogystal â hyfforddi a chadw staff newydd sydd wedi ymrwymo i ddod â chyfiawnder i ddioddefwyr. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan ein dull parhaus o ddarparu adnoddau strategol, yn ogystal â gwella ein diwylliant cynhwysol a blaenoriaethu llesiant ar yr un pryd â chydnabod y pwysau ariannol.
Rydym yn gwybod y byddwn yn gweithredu mewn amgylchedd cymhleth sy’n esblygu am flynyddoedd i ddod, ond rydym yn dal yn hyderus y bydd y gwelliannau rydym yn eu blaenoriaethu nid yn unig yn mynd i’r afael â’r heriau hyn, ond hefyd yn diogelu ein gallu i erlyn yn deg ac yn annibynnol yn y tymor hir.