Skip to main content

Ein pwrpas 

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth galon y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr, gan weithio gyda’n partneriaid i sicrhau cyfiawnder drwy erlyn yn annibynnol a theg.

Ein gweledigaeth, fel sydd wedi'i nodi yn strategaeth CPS 2025, yw sicrhau ein bod yn llais blaenllaw yn y broses o drawsnewid y system cyfiawnder troseddol, gan ddefnyddio ein harbenigedd cyfreithiol a'n gallu digidol i wneud y cyhoedd yn fwy diogel ac i fagu hyder ein cymunedau amrywiol.

Yn y bôn, rôl Gwasanaeth Erlyn y Goron yw:

  • Penderfynu a ddylid erlyn achosion - mae pob penderfyniad am gyhuddo yn seiliedig ar yr un prawf dau gam a nodir yn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron
  • Pennu’r cyhuddiadau priodol mewn achosion mwy difrifol neu gymhleth a chynghori’r heddlu yn ystod camau cynnar ymchwiliadau
  • Paratoi achosion a’u cyflwyno yn y llys
  • Darparu gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr a thystion dros yr erlyniad

Nid ydym yn ymchwilio i droseddau nac yn dewis pa achosion i’w hystyried; rhaid i’n herlynwyr adolygu pob achos sy’n cael ei gyfeirio atom gan yr heddlu neu gan ymchwilwyr eraill. Rydym yn darparu cyngor cyfreithiol arbenigol yn gynnar mewn ymchwiliadau i helpu i adeiladu achosion cryf neu i nodi achosion lle na ddylid cyhuddo unigolyn dan amheuaeth.

Rydym yn gwneud ein penderfyniadau yn annibynnol ar yr heddlu ac ar y llywodraeth. Rhaid i ni fod yn deg, yn wrthrychol ac yn ddiduedd bob amser i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr, tystion, diffynyddion a’r cyhoedd. Ein rôl yw sicrhau bod pob achos sy’n bodloni prawf y Cod yn mynd gerbron y llysoedd.

Wrth i ni adolygu pob achos a anfonir atom, mae ein gwaith yn amrywiol iawn a gall fod yn gymhleth ei natur, pa un ai ein bod ni’n erlyn achosion o fyrgleriaeth, cam-drin domestig, terfysgaeth neu achosion twyll gwerth miliynau o bunnoedd. Yr hyn sydd gan bob un o’r achosion yma’n gyffredin yw eu bod yn gallu cael effaith ofnadwy ar ddioddefwyr.

Mae troseddau rhyngwladol, cyfundrefnol ac economaidd yn fygythiad difrifol i ddiogelwch gwladol y DU ac i les yr economi. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweithio ar draws ffiniau i fynd i’r afael â therfysgaeth a seiberdroseddu, masnachu pobl a smyglo cyffuriau. Rydym yn defnyddio ein pwerau hefyd i atafaelu enillion troseddau gartref a thramor.

Mae gennym dros 7,000 o staff wedi’u hyfforddi’n drylwyr sy’n ein galluogi i sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn am y drosedd gywir, a bod treialon yn deg i sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn gerbron y llys lle bynnag y bo modd.

Rydym yn falch o gael ein cydnabod fel cyflogwr blaenllaw, sydd wedi ymrwymo i gefnogi gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Loading...