Llywodraethu
Fel rhan o feithrin ymddiriedaeth yn ein gwaith, rydym yn awyddus i rannu ein cynlluniau ar gyfer 2023/24, yn ogystal ag esbonio sut rydym yn bwriadu mesur ein cynnydd ac adrodd arno.
Bydd hi’n hanfodol llywodraethu cynllun busnes 2023/24 yn effeithiol er mwyn monitro’r ddarpariaeth a chynnal atebolrwydd yn ein tîm gweithredol, gan sicrhau bod ein Bwrdd, y cyhoedd a’n partneriaid yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn erbyn ein strategaeth sefydliadol.
Drwy’r trefniadau llywodraethu presennol, byddwn yn adrodd yn rheolaidd ar wybodaeth reoli berthnasol ac ar y cynnydd yn erbyn amserlenni, canlyniadau strategol, a’n mesurau llwyddiant. Byddwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau – nid allbynnau’n unig – er mwyn sicrhau dealltwriaeth gywir o effaith ehangach ein gwaith. Mae ein strwythur adrodd yn ein helpu i nodi ac i ddeall risgiau,
gofynion sy’n newid a chyfleoedd yn gynnar, gan ailasesu’r ffordd orau ymlaen yn rheolaidd ac adolygu sut rydym yn mesur llwyddiant i sicrhau bod hyn yn adlewyrchu unrhyw ofynion sy’n newid neu flaenoriaethau sy’n newid.
Gweledigaeth genedlaethol yw’r cynllun hwn, ond bwriedir iddo hefyd fod yn fframwaith clir ar gyfer cynllunio lleol, lle bo’n berthnasol. Bydd arweinwyr lleol yn datblygu cynlluniau gweithredu wedi’u targedu – gan ddilyn y nodau a fynegir yn y cynllun busnes ac ystyried yn benodol sut gellir eu cyflawni ar lefel leol. Rydym hefyd yn disgwyl, lle bynnag y bo modd, y bydd nodau datblygu personol a gyrfaoedd unigolion yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau a amlinellir uchod.
| Fforwm | Crynodeb o’r atebolrwyddau | Rôl yn y gwaith o lywodraethu’r cynllun busnes | Pa mor aml mae adrodd |
|---|---|---|---|
| Grŵp Gweithredol (EG) | Bod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau, gan ganolbwyntio ar gynnal prosesau a gweithdrefnau effeithlon ac effeithiol; dal Uwch Swyddogion Cyfrifol i gyfrif, ac ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol dros gydymffurfio â pholisïau Gwasanaeth Erlyn y Goron. | Tracio cynnydd cynlluniau ac adrodd yn erbyn amserlenni, cyllidebau a chanlyniadau. | Chwarterol |
| Mesurau llwyddiant. | Chwarterol | ||
| Bwrdd Gwasanaeth Erlyn y Goron | Swyddogaethau ar lefel strategol i oruchwylio cynnydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn erbyn strategaeth CPS 2025 a’r weledigaeth hirdymor |
Tracio yn erbyn CPS 2025, y mesurau llwyddiant a’n hymateb i argyfwng y coronafeirws (COVID-19). | Chwarterol |
| Bwrdd Strategol Gweinidogol (Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol/Gwasanaeth Erlyn y Goron) |
Goruchwylio cyfeiriad strategol Gwasanaeth Erlyn y Goron a mynd ati ar y cyd i ddwyn y Gwasanaeth i gyfrif o ran cyflawni ei amcanion strategol. |
Cymeradwyo'r cynllun busnes. Adolygu perfformiad, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ystod y flwyddyn. | Chwarterol |
| Arweinyddiaeth Ranbarthol (Ardaloedd ac Is-adrannau) |
Monitro cynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu lleol fel rhan o fforymau Adolygu Perfformiad Ardal. | AMH (llywodraethu eu cynlluniau eu hunain). | Chwarterol |
Mae rhagor o wybodaeth am ein sefydliad a’n gweledigaeth hirdymor ar gael yn ein Strategaeth CPS 2025.