Skip to main content

Ein crynodeb ariannol

Mae’r crynodeb isod yn nodi prif elfennau gwariant Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth lefel uchel am y mathau o wariant a nodir.

Mae ein gwariant ar gyfer 2023/24 yn cael ei ariannu o setliad yr Adolygiad o Wariant ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron gan Drysorlys EM ac incwm.

Crynodeb o gyllid Gwasanaeth Erlyn y Goron 2023/24
Gwariant adnoddau net (RDEL) £756.8m
Cyfalaf (CDEL) £28.8m
Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) £8.81m

Mae’r tabl uchod yn nodi cyllid Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer 2023/24, wedi’i fynegi fel gwariant Adnoddau (RDEL), Cyfalaf (CDEL) a Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME).

Mae gwariant adnoddau (RDEL) yn arian sy’n cael ei wario ar adnoddau a chostau gweinyddu o ddydd i ddydd. Mae’n cynnwys llogi asiantau, costau erlyn, costau atafaelu enillion troseddau, meithrin gallu yn y system cyfiawnder troseddol, cefnogi mudiadau’r sector gwirfoddol yn y system cyfiawnder troseddol a dibrisiant. Mae cyllid RDEL yn cael ei ddangos heb gynnwys incwm, gan gynnwys yr hyn sy’n deillio o gostau a ddyfarnwyd i’r Gwasanaeth Erlyn y Goron yn y llys neu a gafwyd drwy’r Cynllun Cymell Adfer Asedau. Rydym yn defnyddio model costio manwl sy’n seiliedig ar weithgareddau i asesu’r adnoddau sydd eu hangen er mwyn ateb y galw a ragwelir.

Mae gwariant cyfalaf (CDEL) yn arian sy’n cael ei wario ar ystadau a chyfarpar cyfalaf TG a fydd yn cael eu defnyddio am fwy nag un flwyddyn ariannol. Mae Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) yn cynnwys symudiadau mewn darpariaethau fel dileu a newidiadau mewn lwfans ar gyfer dyledion na ellir eu hadennill a darpariaethau ar gyfer dadfeilio mewn adeiladau.

Yn unol â’r amgylchedd ariannol ehangach, rydym yn parhau i sicrhau bod ein huchelgeisiau’n adlewyrchu ein cwmpas cyllido. Mae’r rhan fwyaf o’n gwariant yn mynd ar ein gweithlu mewnol, yn enwedig cyflogau staff rheng flaen a staff cyfreithiol. Mae’r gwariant hwn wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dilyn y buddsoddiad a gawsom gan Drysorlys EM, sy’n ein galluogi i gyflawni ymgyrch recriwtio sylweddol i gefnogi’r adferiad gweithredol.

Bydd cyllideb 2023/24 yn parhau i fuddsoddi mewn arloesedd a gallu digidol, gan gynrychioli ymrwymiadau clir i ddarparu gwasanaethau gwell, i fynd i’r afael â’r newidiadau yn natur troseddu ac i wella’r ffordd mae cyfiawnder yn cael ei sicrhau.

Rhagamcan o’r Gwariant

Cyllideb     £m % o gyfanswm y gyllide
Incwm     -£45.0m -5%
Costau Gweithlu Allanol a’r Llysoedd     £209.0m 25%
Costau Cyflog Staff Cyfreithiol a Rheng flaen     £397.7m 47%
Costau Cyflog Swyddfa Gefn     £71.0m 8%
TG a Thechnoleg     £65.0m 8%
Costau Adeilad     £22.5m 3%
Arall     £36.6m 4%

Loading...