Skip to main content

Mesurau Llwyddiant

Bydd y mesurau llwyddiant canlynol, o CPS 2025, yn cael eu defnyddio i fonitro cynnydd yn erbyn y prif elfennau i ni eu cyflawni ar draws 2023/24.

Ein Pobl
  • Amrywiaeth ein staff o’i gymharu â chyfartaleddau cenedlaethol (o ran ethnigrwydd, rhywioldeb, anabledd a rhywedd)
 
Gallu Digidol
  • Sgôr coch, oren, gwyrdd ar gyfer cyflawni prosiectau digidol mawr (o ran amser, cyllideb a buddion targed sy’n awgrymu gwerth am arian)
  • Canran a nifer partneriaid yr heddlu neu ymchwilwyr eraill sy’n rhannu tystiolaeth amlgyfrwng â ni ar systemau digidol
 
Partneriaethau Strategol
  • Nifer a canran amcanion partneriaeth sy’n cyrraedd targedau cerrig milltir neu sydd wedi’u cwblhau’n brydlon
 
Ansawdd Gwaith Achos
  • Canran yr achosion lle gwneir penderfyniadau cyfreithiol priodol
  • Canran a nifer penderfyniad ynghylch cyhuddiadau sydd wedi'u cwblhau mewn pryd
  • Canran a nifer yr achosion a gafodd eu gollwng yn y 3ydd gwrandawiad neu yn y gwrandawiad dilynol
  • Canran a nifer cyfarwyddiadau barnwyr y cydymffurfir â hwy ar amser
  • Canran a nifer ple euog yn y gwrandawiad cyntaf
  • Canran a nifer achos y mae rhwymedigaethau datgelu yn cael eu bodloni
  • Nifer cyfartalog (cymedr) y gwrandawiadau fesul achos
 
Hyder y Cyhoedd
  • Canran o aelodau ein panel cymunedol sy’n cytuno â ‘Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymateb i’n hadborth’
  • Canran o’r cyhoedd sy’n cytuno â ‘Rwy’n hyderus bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn effeithiol wrth erlyn pobl a gyhuddir o drosedd’ (YouGov)
Loading...