Skip to main content

Trosolwg o gynllun cyflawni 2023/24

Mae’r trosolwg isod yn tynnu sylw at ein prif brosiectau a’u hallbynnau ar gyfer 2023/24 wedi’u grwpio yn ôl eu prif themâu a chanlyniadau, fel y nodir yn ein Strategaeth CPS 2025. Mae’r allbynnau hyn yn seiliedig ar dybiaethau cynllunio sy’n adlewyrchu’r adnoddau a’r cyfyngiadau presennol. Bydd y cynllun busnes hwn yn cyfrannu hefyd at y gwaith o gyflawni’r canlyniadau blaenoriaeth y cytunwyd arnynt yn yr Adolygiad diwethaf o Wariant.

Mae trefn y themâu a’r prosiectau isod hefyd yn adlewyrchu’r weledigaeth a nodir yn CPS 2025, lle mae angen i ni helpu ein pobl i ffynnu – gyda chymorth gwell gallu digidol a phartneriaethau strategol cryf – i sicrhau ansawdd gwaith achos rhagorol Gyda’i gilydd, mae'r holl elfennau hyn yn sicrhau hyder y cyhoedd.

Ein Pobl

Canlyniad strategol Prosiect Pwrpas Prif allbynnau
Mae gan ein pobl y sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnynt i ffynnu Gweithlu Strategol Cynllunio systematig a rhagweithiol i sicrhau y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu’r capasiti, y gallu a’r diwylliant cywir ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol ar yr adeg iawn er mwyn cyflawni blaenoriaethau’r Gwasanaeth a’i weledigaeth hirdymor.
  1. Cadarnhawyd canlyniadau ymgyrchoedd Erlynydd y Goron/Uwch Erlynydd y Goron (SCP)
  2. Y garfan gyntaf o lwybr datblygu Erlynydd y Goron wedi camu ymlaen i Uwch Erlynydd y Goron
  3. Wedi darparu adnoddau i gefnogi strategaeth fusnes trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol
  4. Wedi adnewyddu’r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer 23/24 i gyflawni blaenoriaethau

Gallu Digidol

Canlyniad strategol Prosiect Pwrpas Prif allbynnau
Rydym yn rhagweithiol wrth fuddsoddi yn ein gallu digidol Rheoli Achosion yn y Dyfodol Sicrhau ein bod yn gallu rhedeg a chynnal ein System Rheoli Achosion (CMS) i ganiatáu parhad busnes hollbwysig, ac ail-lwyfannu a thrawsnewid y system yn raddol ochr yn ochr â hynny i ddiwallu anghenion Gwasanaeth Erlyn y Goron.
  1. Wedi dyfarnu contract i sicrhau parhad busnes y System Rheoli Achosion, sy’n hanfodol i’r genhadaeth
  2. Prosiect i atgynhyrchu ac ail-lwyfannu cronfa ddata’r System yn mynd rhagddi
  3. Newidiadau busnes â’r flaenoriaeth uchaf wedi’u cyflwyno yn y system bresennol, a galluoedd wedi’u diffinio ar gyfer y system yn y dyfodol
Platfform Cyffredin Darparu rhyngwynebau rhwng Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Platfform Cyffredin er mwyn gallu rhannu deunyddiau achosion a gwybodaeth, cydweithio a hwyluso achosion yn effeithiol.
  1. Cwmpas GLlTEF o’r cam cyflwyno cychwynnol yn cael ei gefnogi a’i wreiddio gan Wasanaeth Erlyn y Goron, yn unol ag amserlenni’r Rhaglen Troseddu (yn dibynnu ar barodrwydd GLlTEF)
  2. Gwaith Gwasanaeth Erlyn y Goron o ddatblygu a phrofi rhyngwynebau â’r Platfform Cyffredin wedi’i gwblhau (yn dibynnu ar barodrwydd GLlTEF)
  3. Rhyngwynebau’r Platfform Cyffredin wedi’u lansio yn unol ag amserlenni’r Rhaglen Troseddu (yn dibynnu ar barodrwydd GLlTEF)
Ffeil Achos Digidol Gwella ansawdd ffeiliau achos gan yr heddlu drwy gyflwyno cyfres o gamau gorfodol, meysydd data mwy strwythuredig a chynllun gweithredu dwyffordd i wella gwaith ar y cyd.
  1. Gweithgareddau parodrwydd ar gyfer rhoi’r model ar waith gyda heddluoedd sy’n mabwysiadu’n gynnar wedi’u cwblhau (yn dibynnu ar barodrwydd yr heddlu)
Rydym yn arloesi, gan gynnwys gyda thechnoleg ddatblygol Arloesi Digidol Diwydiannu ein gallu i gyflawni a defnyddio gallu digidol i gyflawni mentrau allweddol.
  1. Gwasanaeth Erlyn y Goron yn defnyddio atebion awtomeiddio i wella effeithlonrwydd a chefnogi adferiad gweithredol
  2. Adnodd newydd i gefnogi’r gwaith o adolygu a golygu achosion ar gael, ac wedi’i ailadrodd, gan groesawu dyluniad sy’n cael ei arwain gan y defnyddiwr
  3. Cais treuliau tystion wedi’i lansio i ddigideiddio’r prosesau papur presennol

Partneriaethau Strategol

Canlyniad strategol Prosiect Pwrpas Prif allbynnau
Rydym yn dylanwadu ar newid ar draws y System Cyfiawnder Troseddol drwy berthnasoedd rydym yn ymddiried ynddynt Cynllun Adfer Gweithredol Rheoli adferiad Gwasanaeth Erlyn y Goron i lefelau cyn y pandemig a gweithgareddau gwella er mwyn i ni gyflawni ein gwaith achos a’n gweithrediadau’n effeithiol.
  1. Cynllun adfer traws-system Llys y Goron wedi’i ddatblygu gyda’r Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder
  2. Model Llys y Goron wedi’i weithredu ar draws y Gwasanaeth

Ansawdd Gwaith Achos

Canlyniad strategol Prosiect Pwrpas Prif allbynnau
Mae’r person cywir yn cael ei erlyn am y drosedd gywir Model Gweithredu’r Uned Treisio a Throseddau Rhywiol Difrifol Datblygu model gweithredu cenedlaethol newydd ar gyfer treisio oedolion, gan wella ein hymateb a’n perfformiad mewn cysylltiad ag erlyniadau treisio.
  1. Model Gweithredu Cenedlaethol newydd ar gyfer treisio a throseddau rhywiol difrifol wedi’i lansio
  2. Cynllun gweithredu wedi’i gynhyrchu
  3. Adroddiad Technegol Llawn Academaidd wedi’i gwblhau
Delio ag achosion yn effeithiol Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar y Cyd ar gyfer Treisio a Throseddau Rhywiol Difrifol Sicrhau gwelliant parhaus yn ymateb Gwasanaeth Erlyn y Goron i achosion o dreisio a throseddau rhywiol difrifol, gan barhau i ddangos, drwy gyflawni, ein gwaith cydweithredol gyda’r heddlu, ac o ganlyniad gwella hyder y cyhoedd yn y ffordd y mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymdrin â gwaith achos.
  1. Protocol Cenedlaethol ar y Cyd Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Heddlu wedi’i gyflwyno
  2. Pecyn tystiolaeth fforensig wedi’i lansio
  3. Dulliau cyfweld Sicrhau’r Dystiolaeth Orau (ABE) wedi’u treialu a’u gwerthuso
Model Cyhuddiadau Gwella’r broses cyhuddo yn sylweddol drwy fodel sy’n mynnu ffeiliau heddlu o ansawdd uwch, gan gael gwared ar yr aneffeithlonrwydd presennol a’r ailweithio sy’n ofynnol gan Wasanaeth Erlyn y Goron a heddluoedd.
  1. Y Model Cyhuddiadau Newydd wedi’i gyflwyno ar draws holl Ardaloedd Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r holl heddluoedd
Strategaeth Achosion Penderfyniadau erlynwyr yn gwrthsefyll craffu ac yn darparu gwell canlyniadau.
  1. Cynllun gweithredu wedi’i ddatblygu
  2. Asesiad cychwynnol o’r cynnydd yn erbyn y llinell sylfaen gychwynnol wedi’i gwblhau
  3. Cynllun gweithredu wedi’i gwblhau, a metrigau cynnydd wedi’u hadrodd
Mae ansawdd ein gwaith achos yn gwella drwy weithio mewn partneriaeth Cyd-gynllun Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig Creu Cyd-gynllun Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig gyda Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu i wella’r gwaith o ymchwilio i achosion o gam-drin domestig a’u herlyn yn llwyddiannus, gan sicrhau ffocws ar ddiwallu anghenion dioddefwyr cam-drin domestig.
  1. Cyd-gynllun Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig wedi’i ddatblygu drwy weithdai
  2. Cyd-gynllun Cyfiawnder ar gyfer Cam-drin Domestig wedi’i lansio

Hyder y Cyhoedd

Canlyniad strategol Prosiect Pwrpas Prif allbynnau
Mae dioddefwyr a thystion yn cael profiad teg wrth ryngweithio â ni, waeth beth fo'r canlyniad Strategaeth Trais yn erbyn Merched Creu Strategaeth Trais yn erbyn Merched i fynd i’r afael â themâu trawsbynciol er mwyn gwella’r ffordd o reoli achosion Trais yn erbyn Merched.
  1. Strategaeth ddrafft Trais yn erbyn Merched wedi’i pharatoi
  2. Gwaith ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a dargedir wedi’i gwblhau
  3. Strategaeth Trais yn erbyn Merched wedi’i chwblhau a’i lansio
Rhaglen Trawsnewid i Ddioddefwyr Darparu model gwasanaeth newydd sydd wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion dioddefwyr.
  1. Y gwaith o ddatblygu model gwasanaeth dioddefwyr ar draws y CPS wedi’i gwblhau
  2. Treialon y model gwasanaeth dioddefwyr wedi dechrau
Rydym yn llais arweiniol wrth sicrhau bod diffynyddion yn cael eu trin yn deg gan y System Cyfiawnder Troseddol Strategaeth Diffynyddion Gwella canlyniadau i ddiffynyddion, gan gynnwys plant, sydd ag anhwylderau neu gyflyrau iechyd meddwl neu niwroamrywiaeth.
  1. Nifer yr achosion sy’n ymwneud â phlant a’u tueddiadau o ran troseddu wedi’i nodi
  2. Effeithiolrwydd yr hyfforddiant Iechyd Meddwl wedi’i werthuso
  3. Yr Asesiad Plant mewn Gofal a Rhestrau Gwirio’r Rhai sy’n Ymuno am y Tro Cyntaf wedi’u gwerthuso
Rydym yn deall y ffordd orau i wasanaethu ein cymunedau amrywiol Anghymesuredd Deall a rhoi sylw i unrhyw wahaniaethau o ran rhyw, oedran a hil mewn penderfyniadau ynghylch cyhuddiadau mewn Ardal, a sicrhau bod diffynyddion yn cael eu trin yn deg.
  1. Y gwaith o godio, dadansoddi ac ymchwilio i anghymesuredd ffeiliau achos wedi’i gwblhau
  2. Crynhoad hygyrch o’r pecyn ymchwil wedi’i gynhyrchu
  3. Cynllun gweithredu ar sail tystiolaeth wedi’i gynhyrchu ac adroddiad wedi’i gyhoeddi
Loading...