Ein hamgylchedd gweithredu a’r heriau
Mae cynllun busnes Gwasanaeth Erlyn y Goron yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond wrth wneud hynny rhaid iddo hefyd ymateb i’r amgylchedd rydym yn gweithio ynddo. Mae ein cyd-destun gweithredu yn heriol ac yn esblygu – yn y flwyddyn i ddod, bydd angen i ni gydbwyso dymuniad i gyflawni newidiadau pwysig gyda phragmatiaeth a hyblygrwydd i lwyddo.
Mae’r pandemig wedi newid Gwasanaeth Erlyn y Goron yn aruthrol, a byddwn yn parhau i deimlo effaith hyn hyd yn oed wrth i ni symud tuag at gyfnod ar ôl y pandemig. Rydym yn dal i wynebu ôl-groniad sylweddol o achosion, ac mae angen i’n cynlluniau cyflawni gweithredol fynd i’r afael â hyn ar yr un pryd â hwyluso gwelliannau i’n ffyrdd o weithio. Gallwn fod yn hyderus yn ymateb rhyfeddol y sefydliad i’r pandemig, gan barhau i ddatblygu ein gallu digidol i erlyn yn annibynnol ac yn deg gyda gweithlu hyblyg a chefnogol. Hefyd, fe wnaeth y pandemig gyflymu a newid natur newidiol troseddu, gan ei gwneud yn anoddach nag erioed i ni ragweld tueddiadau a’r galw wedyn yn y system cyfiawnder troseddol. Mae’r amgylchedd cymhleth hwn sy’n newid o hyd yn gofyn am waith drwy'r amser gyda’n partneriaid i ganfod tueddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac i ymateb gyda’r sgiliau, yr adnoddau a’r canllawiau angenrheidiol i sicrhau bod achosion yn symud drwy’r system.
Mae digideiddio gwybodaeth a phrosesau yn gweddnewid y system cyfiawnder troseddol, gan gyflwyno heriau mawr a chyfleoedd sydd yr un mor arwyddocaol. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn parhau i arwain y ffordd o ran mabwysiadu prosesau gwaith digidol yn gyflym, gan roi sylfaen gref i ni adeiladu arni. Byddwn yn manteisio ar hyn drwy fuddsoddi mewn offer, systemau a phrosesau digidol. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod modd rhannu achosion a gwybodaeth yn ddiogel ac yn effeithlon â’n partneriaid. Ategir yr ymrwymiadau hyn gan gydweithio effeithiol, gan gynnig cyfleoedd i uno systemau, gwella ansawdd gwaith achos, a delio’n fwy effeithiol â ffeiliau achosion cynyddol sy’n fwyfwy cymhleth.
Yn amlwg, mae’r cyhoedd yn craffu ar ein gwaith o erlyn rhai o’r troseddau mwyaf cymhleth ac erchyll, yn enwedig achosion trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol (RASSO). Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i wella erlyniadau RASSO a phrofiadau dioddefwyr a thystion. Mae maint yr her ac amlygrwydd hyn yn cael ei adlewyrchu drwy gydol y cynllun hwn, drwy gynnwys Ymgyrch Soteria a fframwaith perfformiad RASSO. Rydym hefyd wedi cynnwys yr hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni yn erbyn ymrwymiadau cyhoeddus presennol: ein Cydgynllun Gweithredu Cenedlaethol gyda’r heddlu, ein strategaeth RASSO 2025 pum mlynedd a’n hymateb i’r Adolygiad Treisio gan y Llywodraeth. Mae’r gwaith hwn yn digwydd ar draws y system, gan ymestyn ar draws Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr heddlu a’r llysoedd – dim ond gyda’n gilydd y gallwn sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr.
Ni fydd cyflawni’r heriau hyn a’r rhaglen waith uchelgeisiol a amlinellir yma yn bosibl heb y bobl iawn yn eu lle. Rydym yn ehangu nifer y rolau craidd sy’n gweithio i gyflawni ein hymrwymiadau – ond mae’r arbenigedd sydd ei angen, ynghyd â chymhlethdod ein gwaith, yn golygu y bydd hyn yn cymryd amser. Byddwn yn gweithio’n ddiflino i lenwi’r rolau cyfreithiol sy’n angenrheidiol i leihau’r ôl-groniad, gwella perfformiad a sicrhau bod gennym fwy o allu. Bydd hyn yn cael ei ategu gan ein dull newydd o ddarparu adnoddau strategol, yn ogystal â gwella ein diwylliant cynhwysol, blaenoriaethu llesiant, a chynyddu modelau gweithio hybrid.
Rydym yn gwybod y byddwn yn gweithredu mewn amgylchedd cymhleth sy’n esblygu am flynyddoedd i ddod – ond rydym yn dal yn hyderus y bydd y gwelliannau rydym yn eu blaenoriaethu nid yn unig yn mynd i’r afael â’r heriau hyn, ond hefyd yn diogelu ein gallu i erlyn yn deg ac yn annibynnol yn y tymor hir.