Skip to main content

Ein pwrpas

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth galon y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr,
gan weithio gyda’n partneriaid i sicrhau cyfiawnder drwy erlyn yn annibynnol a theg.

Ein gweledigaeth, fel sydd wedi'i nodi yn strategaeth CPS 2025, yw sicrhau ein bod yn llais blaenllaw yn y broses o drawsnewid y system cyfiawnder troseddol, gan ddefnyddio ein harbenigedd cyfreithiol a'n gallu digidol i wneud y cyhoedd yn fwy diogel ac i fagu hyder ein cymunedau amrywiol. 

Yn y bôn, rôl Gwasanaeth erlyn y Goron yw:

  • Penderfynu a ddylid erlyn achosion - mae pob penderfyniad am gyhuddo yn seiliedig ar yr un prawf dau gam a nodir yn ein Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron
  • Pennu’r cyhuddiadau priodol mewn achosion mwy difrifol neu gymhleth a chynghori’r heddlu yn ystod camau cynnar ymchwiliadau
  • Paratoi achosion a’u cyflwyno yn y llys
  • Darparu gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr a thystion dros yr erlyniad

Nid ydym yn ymchwilio i droseddau, nac yn dewis pa achosion i’w hystyried; rhaid i’n herlynwyr adolygu pob achos sy’n cael ei gyfeirio atom gan yr heddlu neu gan ymchwilwyr eraill. Rydym yn darparu cyngor cyfreithiol arbenigol yn gynnar mewn ymchwiliadau i helpu i adeiladu achosion cryf neu nodi achosion lle na ddylid cyhuddo rhywun a amheuir.

Rydym yn gwneud ein penderfyniadau yn annibynnol ar yr heddlu ac ar y llywodraeth. Rhaid i ni fod yn deg, yn wrthrychol ac yn ddiduedd bob amser i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr, tystion, diffynyddion a’r cyhoedd. Ein gwaith yw sicrhau bod pob achos sy’n bodloni prawf y Cod yn mynd gerbron y llysoedd.

Wrth i ni adolygu pob achos a anfonir atom, mae ein gwaith yn amrywiol iawn a gall fod yn gymhleth ei natur, pa un ai ein bod ni’n erlyn achosion o fyrgleriaeth, cam-drin domestig, terfysgaeth neu achosion twyll gwerth miliynau o bunnoedd. Yr hyn sydd gan bob un o’r achosion yma’n gyffredin yw eu bod yn gallu cael effaith ofnadwy ar ddioddefwyr.

Mae troseddau rhyngwladol, cyfundrefnol ac economaidd yn fygythiad difrifol i ddiogelwch gwladol y DU ac i les yr economi. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gweithio ar draws ffiniau i fynd i’r afael â therfysgaeth a seiberdroseddu, masnachu pobl a smyglo cyffuriau. Rydym yn defnyddio ein pwerau hefyd i atafaelu enillion troseddau gartref a thramor.

Mae gennym dros 6,000 o staff sydd wedi’u hyfforddi’n drylwyr fel ein bod yn gallu sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn am y drosedd gywir, a bod treialon yn deg fel bod troseddwyr yn cael eu dwyn gerbron y llys lle bynnag y bo modd. 

Rydym yn falch o gael ein cydnabod fel cyflogwr blaenllaw, sydd wedi ymrwymo i gefnogi gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Loading...