Trosolwg o’r cynllun busnes
Pwrpas y cynllun busnes hwn yw:
- Crynhoi ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod a mapio cynnydd tuag at uchelgeisiau tymor hwy
- Dangos bod ein gwaith yn cyd-fynd â nodau a chanlyniadau CPS 2025
- Creu perchnogaeth ac atebolrwydd clir dros y gweithgareddau rydym yn eu gwneud
- Rhannu ein cynlluniau â chydweithwyr a phartneriaid, gan greu sylfaen glir i adeiladu arni ar lefel genedlaethol a lleol
- Ein rhoi mewn sefyllfa i weithio’n effeithiol gyda phartneriaid i drawsnewid cyfiawnder troseddol
Mae’r cynllun yn cynnwys tair prif adran sy’n amlinellu’r cyd-destun y cafodd ei ddatblygu ynddo, y meysydd gwaith allweddol y byddwn yn bwrw ymlaen â nhw, a sut y bydd ein strwythurau llywodraethu’n goruchwylio’r broses o’i weithredu.
Mae’r adrannau cefndir, uchelgais a chyd-destun yn edrych ar y cyd-destun ehangach a’r ffactorau allweddol sy’n sail i gynllun busnes eleni, gan gynnwys rôl Gwasanaeth Erlyn y Goron a heriau’r amgylchedd gweithredu presennol.
Mae’r adran ar ein cynllun cyflawni yn rhoi golwg strategol ar waith Gwasanaeth Erlyn y Goron yn y flwyddyn i ddod drwy drosolwg o brosiectau ac allbynnau arfaethedig, wedi’u grwpio yn ôl thema CPS 2025 a’u mapio yn ôl y canlyniad 2025 maent yn cyflawni yn ei erbyn.
Mae’r adran olaf yn rhoi crynodeb ariannol byr a throsolwg o’r strwythurau llywodraethu a fydd yn craffu ar weithredu’r cynllun dros y flwyddyn i ddod.
Ein Gweledigaeth
Rydym yn llais blaenllaw yn y broses o drawsnewid y system cyfiawnder troseddol, gan ddefnyddio ein harbenigedd cyfreithiol a'n gallu digidol i wneud y cyhoedd yn fwy diogel ac i fagu hyder ein cymunedau amrywiol.
Ein Cenhadaeth
Rydym yn cyflawni cyfiawnder drwy erlyn yn annibynnol ac yn deg.
Ein Gwerthoedd
- Trin pawb â pharch – byddwn yn parchu ein gilydd, ein cydweithwyr a’r cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu, gan gydnabod bod pobl y tu ôl i bob achos.
- Bod yn annibynnol ac yn deg – byddwn yn erlyn yn annibynnol heb ragfarn ac yn ceisio sicrhau cyfiawnder ym mhob achos.
- Ymddwyn yn broffesiynol ac anelu at ragoriaeth – byddwn yn gweithio fel un tîm, gan chwilio bob amser am ffyrdd newydd a gwell o ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cyhoedd. Byddwn yn defnyddio arian trethdalwyr yn effeithlon ac mewn modd cyfrifol.
- Bod yn onest ac yn agored – byddwn yn egluro ein penderfyniadau, gosod safonau clir am y gwasanaeth y gall y cyhoedd ei ddisgwyl gennym, a bod yn onest os byddwn yn gwneud camgymeriad.