Rhagair gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus a’r Prif Swyddog Gweithredol
Rydym yn falch o gyflwyno’r cynllun hwn ar adeg mor bwysig i Wasanaeth Erlyn y Goron a’r system cyfiawnder troseddol ehangach. Mae’n nodi trydedd ran ein strategaeth pum mlynedd uchelgeisiol, CPS 2025, ac felly mae’n gosod ein prosiectau newid strategol o dan bob un o’n pum nod strategol – ein pobl, gallu digidol, partneriaethau strategol, ansawdd gwaith achos a hyder y cyhoedd.
Roedd y pandemig yn brawf ar bob un ohonom na welwyd ei debyg o’r blaen ac, ochr yn ochr â’n partneriaid, rydym wedi dangos llawer o hyblygrwydd a chadernid i barhau i sicrhau cyfiawnder. Nid ydym yn diystyru’r heriau sylweddol sy’n dal i fodoli – gydag ôl-groniadau sy’n golygu oedi annioddefol weithiau i ddioddefwyr, tystion a diffynyddion.
Mae setliad tair blynedd cadarnhaol yr Adolygiad o Wariant wedi ein helpu wrth gynllunio eleni, ac mae hyn wedi ein galluogi i edrych ymlaen gyda mwy o hyder ac optimistiaeth. Mae’r buddsoddiad hwn o’r newydd yn bleidlais o hyder yn ein gallu ar y cyd i leihau pwysau a diwallu’r galw newydd, ac mae hyn i’w groesawu. Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda i drawsnewid y gwasanaeth a ddarparwn, yn enwedig i’r rhai mwyaf agored i niwed, ac i sicrhau bod pob un ohonom yn chwarae ein rhan i sicrhau tegwch a chyfiawnder i bawb.
Bydd ein blaenoriaethau ar gyfer eleni yn helpu Gwasanaeth Erlyn y Goron i adfer ar ôl effaith y pandemig, gan sicrhau gwelliannau hanfodol ar yr un pryd. Byddwn yn buddsoddi’n ofalus ac yn sylweddol i wrthdroi’r dirywiad amlwg mewn erlyniadau trais rhywiol, gan feithrin hyder y cyhoedd yn y ffordd rydym yn delio â thrais yn erbyn menywod a merched. Byddwn yn gwella ein gallu digidol i ddarparu gwaith achos o ansawdd uwch a mwy o gydweithio, gyda llai o oedi. Gwyddom hefyd fod angen diwygio ein gwasanaeth i ddioddefwyr ar frys – byddwn yn gwella’r gefnogaeth a roddwn i bob dioddefwr, gan ganolbwyntio’n benodol ar y dioddefwyr hynny sydd â’r angen mwyaf.
Ein pobl yw ein hased mwyaf, ac mae’n rhaid i fuddsoddiad yn ein capasiti a’n gallu gyfateb i’n huchelgais. Rydym yn tyfu’n gyflym yn barod – gyda chynllun gweithlu strategol newydd ac ymdrechion o’r newydd i recriwtio adfocadau newydd o amrywiaeth o gefndiroedd. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan ein pobl yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i weithredu’n effeithiol – p’un a ydynt yn gweithio mewn llys, mewn swyddfeydd neu gartref. Bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i leihau ôl-groniadau, grymuso a chefnogi ein staff rheng flaen, a sicrhau newid arwyddocaol.
Mae gan bawb yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron rôl i’w chwarae o ran cyflawni ein cynllun busnes – mae’n nodi beth ddylai ein blaenoriaethau fod, pa newidiadau a chefnogaeth fydd yn ein helpu i wneud ein gwaith, a sut mae hyn yn gwella gallu’r sefydliad cyfan i erlyn yn annibynnol ac yn deg. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan ein gwerthoedd – i drin pawb â pharch, i fod yn annibynnol ac yn deg, i fod yn agored ac yn onest, i ymddwyn yn broffesiynol ac i anelu at ragoriaeth. Hyderwn fod y cynllun hwn yn dangos y ffyrdd niferus rydym yn eu defnyddio i geisio gwella’r gwasanaeth a ddarparwn i’r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu a’n bod ni’n benderfynol o chwarae ein rhan i gadw’r cyhoedd yn fwy diogel.

Max Hill CF
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus

Rebecca Lawrence
Prif Swyddog Gweithredol