Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Select language
Main content area

Llofuddiwr cam-drin domestig yn cael ei ddedfrydu i garchar am oes

|News, Violent crime , Domestic abuse

Mae dyn a lofruddiodd ei bartner yn ardal Tregatwg wedi'i ddedfrydu i garchar am oes.

Cafwyd Mathew Pickering, 49, yn euog o lofruddio'i bartner, Georgina Dowes Mayers, ar ôl treial 11-diwrnod a glywyd yn Llys y Goron Abertawe. Dedfrydwyd Pickering heddiw i carchar am oes a rhaid iddo wasanaethu am isafswm o 17.5 mlynedd.

Brynhawn 6 Mai 2023, anfonodd Pickering neges destun o'i ffôn symudol i ffôn Georgina yn gofyn a oedd hi wedi cyrraedd Merthyr yn saff, gan wybod yn iawn fod corff Georgina yn ei gartref.

Yr un prynhawn, aeth Pickering i siop gornel i brynu cannydd; dalwyd hyn ar deledu cylch cyfyng. Yn ystod gyda'r nos y 6 Mai gwelwyd Pickering mewn rhagor o luniau teledu cylch cyfyng yn cael gwared ag eitemau mewn bin ac eto fore'r 7 Mai, lle gwelwyd ef yn cario bag plastig a sach cefn.

Cafwyd hyd i gorff Georgina yn hwyrach ymlaen yng nghartref Pickering gydag anafiadau i'w phen, ei hwyneb a'i gwddf.

Dywedodd Nia Sturgess o Wasanaeth Erlyn y Goron:"Dioddefodd Georgina anafiadau sylweddol nad oedd Mathew Pickering yn gallu eu hegluro. Datgelodd tystiolaeth teledu cylch cyfyng a ffôn y drafferth yr aeth i geisio cuddio'i drosedd.

"Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd camdriniaeth ddomestig yn hynod ddifrifol a bydd yn erlyn achosion pryd bynnag y byddir yn cwrdd â'n prawf cyfreithiol.

"Erys ein meddyliau â theulu a ffrindiau Georgina".

Dedfrydwyd Mathew Pickering ar 5 Chwefror 2024 i garchar am oes a'i orchymyn i dreulio o leiaf 17.5 mlynedd yn y carchar.

Nodiadau i olygyddion

  • Nia Sturgess yw Uwch-erlynydd y Goron yn CPS Cymru.
  • Dyfarnwyd Mathew Pickering (DG: 05/01/1975) yn euog o lofruddiaeth yn dilyn y treial.
  • Bu farw Georgina Sarah Dowey Mayers ar 6 Mai 2023 yn 46 mlwydd oed.

Further reading

Scroll to top