Ein llywodraethiant
Bydd llywodraethiant effeithiol ein cynllun busnes yn hanfodol er mwyn monitro’r ddarpariaeth a chynnal atebolrwydd.
| Fforwm Llywodraethiant | Crynodeb o’r atebolrwyddau |
|---|---|
| Pwyllgor Gweithredol | Pwrpas y Pwyllgor Gweithredol yw rhoi arweiniad a gwneud penderfyniadau ar strategaethau corfforaethol, cyllid strategol, risg strategol, a materion strategol sy’n ymwneud â’r gweithlu, ac ymgysylltu ar lefel uchel ag Adrannau eraill y Llywodraeth. |
| Bwrdd Gwasanaeth Erlyn y Goron | Prif swyddogaeth Bwrdd Gwasanaeth Erlyn y Goron yw cytuno ar gyfeiriad strategol a blaenoriaethau Gwasanaeth Erlyn y Goron a darparu fforwm ar gyfer herio cynigion yn adeiladol a gweithredu penderfyniadau gan y Pwyllgor Gweithredol fel y bo’n briodol. |
Bwrdd Strategol Gweinidogol (Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol/Gwasanaeth Erlyn y Goron) | Nod trosfwaol y Bwrdd Strategol Gweinidogol yw goruchwylio cyfeiriad strategol Gwasanaeth Erlyn y Goron, a dwyn Gwasanaeth Erlyn y Goron i gyfrif o ran cyflawni ei amcanion strategol. |
| Arweinyddiaeth Ranbarthol (Ardaloedd a Chyfadranau) | Monitro cynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu lleol fel rhan o fforymau Adolygu Perfformiad Ardal. |