Llywodraethu
Bydd llywodraethu effeithiol ein cynllun busnes yn hanfodol er mwyn monitro’r ddarpariaeth a chynnal atebolrwydd.
| Fforwm Llywodraethu | Crynodeb o atebolrwydd |
|---|---|
| Grŵp Gweithredol | Pwrpas y Grŵp Gweithredol yw goruchwylio perfformiad a chyflawniad cyffredinol Gwasanaeth Erlyn y Goron. |
| Bwrdd Gwasanaeth Erlyn y Goron | Prif swyddogaeth Bwrdd Gwasanaeth Erlyn y Goron yw cytuno ar gyfeiriad strategol a blaenoriaethau’r CPS a darparu fforwm ar gyfer herio cynigion yn adeiladol a gweithredu penderfyniadau gan y Grŵp Gweithredol fel y bo’n briodol. |
| Bwrdd Strategol Gweinidogol (Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol / Gwasanaeth Erlyn y Goron) | Nod trosfwaol y Bwrdd Strategol Gweinidogol yw goruchwylio cyfeiriad strategol y CPS, a dwyn y CPS i gyfrif o ran cyflawni ei amcanion strategol. |
| Arweinyddiaeth Ranbarthol (Ardaloedd ac Isadrannau) | Monitro cynnydd yn erbyn cynlluniau gweithredu lleol fel rhan o fforymau Adolygu Perfformiad Ardal. |