Rhagair gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus
Mae’n bleser gennyf gyflwyno cynllun busnes eleni, y cyntaf gen i fel Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus a’r olaf o dan y strategaeth bresennol, Gwasanaeth Erlyn y Goron 2025. Mae’r cynllun ar gyfer y flwyddyn hon yn gyfle allweddol wrth i ni geisio adeiladu ar waith rhagorol y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â nodi dechrau cyfeiriad newydd i’r sefydliad.
Ers ymuno fis Tachwedd diwethaf, mae wedi bod yn amlwg i mi bod ein sefydliad yn benderfynol o sicrhau cyfiawnder drwy erlyniadau annibynnol a theg. Mae’r ymdeimlad cyffredin hwn o bwrpas yn uno Gwasanaeth Erlyn y Goron ac yn rhoi hyder mawr i mi yn ein gallu i wneud y gwasanaeth hanfodol rydym yn ei ddarparu hyd yn oed yn well. Bydd hyn yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r heriau cymhleth sy’n wynebu Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r system cyfiawnder troseddol ehangach; heriau sy’n cael eu cymhlethu ymhellach gan lwyth achosion sy’n gyson uchel, mwy o alw, a phwysau ariannol. Serch hynny, rydym yn benderfynol o sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr a chymdeithas – a pha bynnag rôl sydd gennym yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, mae pob un ohonom wedi ymrwymo i gyflawni’r nod hwnnw.
Er gwaethaf ymdrechion sylweddol Gwasanaeth Erlyn y Goron a’n partneriaid, gwyddom fod dioddefwyr, tystion a’r cyhoedd yn dal i aros yn rhy hir i gael cyfiawnder. Rwyf am i ni wneud popeth o fewn ein gallu i leihau oedi, ac i gefnogi dioddefwyr i ddyfalbarhau – gan wella eu profiad fel y gallant weld achosion yn dod i ben. Un ffordd y gallwn gyflawni’r nod hwn yw cryfhau ein hadnodd eiriolaeth mewnol yn ogystal â helpu’r Bar allanol i gynyddu a chynnal ei niferoedd. Drwy’r rhain, gallwn leihau nifer y gohiriadau llys a chyflymu’r broses o weinyddu cyfiawnder.
Ar yr un pryd, mae pawb yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn parhau i weithio’n eithriadol o galed i ymdopi â phwysau dwys a heriau cymhleth. Er mwyn helpu i leddfu’r pwysau hynny, hoffwn sicrhau ein bod yn gweithio mor effeithiol â phosibl, gan feddwl yn greadigol am sut y gallwn leihau’r rhwystrau dyddiol y mae staff Gwasanaeth Erlyn y Goron yn eu hwynebu, a chefnogi ein pobl i fod ar eu gorau.
Mae angen i ni hefyd chwarae rhan flaenllaw yn y system ehangach, gan sbarduno gwelliannau gyda chydweithwyr ym maes cyfiawnder troseddol. Yn benodol, byddwn yn datblygu bwndeli digidol ar gyfer rheithgorau i gefnogi system llysoedd fodern, ac yn cryfhau ein cydweithrediad â’r heddlu i weithio’n fwy effeithiol ar lefel leol a chenedlaethol. Mae’r gwaith pwysig rydyn ni wedi’i wneud ar y cyd i wella’r ffordd rydyn ni’n delio â thrais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol yn dangos pa mor effeithiol y gallwn ni fod pan fyddwn ni’n cyflawni newid gyda’n gilydd. Yn y pen draw, mae hyn yn ddyledus gennym i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu – ac i’r dioddefwyr sy’n dibynnu arnom i sicrhau cyfiawnder iddynt.
Mae’r cynllun hwn yn cynnwys meysydd gwaith allweddol y byddwn yn eu blaenoriaethu eleni er mwyn dod yn fwy effeithiol ac effeithlon. Os gallwn wneud yn siŵr ein bod yn darparu mewn ffordd sydd yn wir yn gweithio i ni, yna, yn y pen draw, byddwn yn darparu gwell gwasanaeth i’r dioddefwyr a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Stephen Parkinson
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus