Ein hamgylchedd gweithredu a’r heriau
Mae cynllun busnes Gwasanaeth Erlyn y Goron yn nodi ein blaenoriaethau trawsnewid ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond wrth wneud hynny rhaid iddo hefyd allu ymateb i’r amgylchedd rydym yn gweithio ynddo. Mae ein cyd-destun gweithredu yn heriol ac yn esblygu – yn y flwyddyn i ddod, bydd angen i ni gydbwyso dymuniad i gyflawni newidiadau pwysig gyda phragmatiaeth a hyblygrwydd i lwyddo.
Mae’r pandemig wedi newid Gwasanaeth Erlyn y Goron yn aruthrol ac rydym yn parhau i deimlo ei effaith. Rydym yn dal i wynebu ôl-groniad sylweddol o achosion. Mae’r niferoedd yn uwch na’r disgwyl oherwydd gwahanol bwysau sy’n gorgyffwrdd sydd wedi effeithio ar yr adferiad eleni, yn enwedig gweithredu diwydiannol a heriau dilynol o ran ffioedd bar. Rydym hefyd yn cydnabod bod hon wedi bod yn flwyddyn heriol ar draws y llywodraeth, gyda phwysau economaidd yn effeithio ar flaenoriaethau cyllido. Er mwyn ymateb i’r heriau hyn a chyflawni ein hymrwymiadau yn CPS 2025, mae angen i’n cynlluniau cyflawni gweithredol fynd i’r afael â’r ôl-groniad sy’n weddill, gan barhau i wella ein ffyrdd o weithio ar yr un pryd.
Mae digideiddio gwybodaeth a phrosesau yn parhau i weddnewid y system cyfiawnder troseddol, gan gyflwyno heriau mawr a chyfleoedd sydd yr un mor arwyddocaol. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn parhau i arwain y ffordd o ran mabwysiadu prosesau gwaith digidol yn gyflym, gan roi sylfaen gadarn i ni adeiladu arni. Rydym yn manteisio ar hyn drwy fuddsoddi mewn offer, systemau a phrosesau digidol, a sicrhau bod modd rhannu achosion a gwybodaeth yn ddiogel ac yn effeithlon gyda’n partneriaid. Rydym wedi ymrwymo i raglenni sy’n ceisio gwella ansawdd ffeiliau achos, digideiddio prosesau, a gwella effeithlonrwydd a phrofiad defnyddwyr ar draws y system cyfiawnder troseddol.
Yn amlwg, mae’r cyhoedd yn dal i graffu ar ein gwaith o erlyn rhai o’r troseddau mwyaf cymhleth ac erchyll, yn enwedig achosion treisio a throseddau rhywiol difrifol. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i wella erlyniadau treisio a throseddau rhywiol difrifol, a phrofiadau dioddefwyr a thystion. Mae graddfa’r her yn cael ei hadlewyrchu yn y cynllun hwn. Wedi’u cynnwys mae’r Model Gweithredu newydd ar gyfer yr Uned trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol, Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar y Cyd Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r Heddlu ar gyfer trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol, a’r Strategaeth Trais yn erbyn Merched. Mae’r gwaith hwn yn digwydd ar draws y system, gan ymestyn ar draws Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr heddlu a’r llysoedd – dim ond gyda’n gilydd y gallwn sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr.
Ni fydd cyflawni’r heriau hyn a’r rhaglen waith uchelgeisiol a amlinellir yma yn bosibl heb y bobl iawn yn eu lle. Rydym yn ehangu nifer y rolau craidd sy’n gweithio i gyflawni ein hymrwymiadau – ond mae’r arbenigedd sydd ei angen, ynghyd â chymhlethdod ein gwaith, yn golygu y bydd hyn yn cymryd amser. Byddwn yn gweithio’n ddiflino i lenwi’r rolau cyfreithiol sy’n angenrheidiol i leihau’r ôl-groniad, gwella perfformiad a sicrhau bod gennym fwy o allu. Bydd hyn yn cael ei ategu gan ein dull newydd o ddarparu adnoddau strategol, yn ogystal â gwella ein diwylliant cynhwysol a blaenoriaethu lles.
Rydym hefyd yn canolbwyntio ar reoli cysylltiadau â phartneriaid allanol yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl. Mae llwyddiant rhai o’n prif ddarnau o waith yn dibynnu ar sefydliadau a chyflenwyr eraill, ac rydym am sicrhau ein bod yn rheoli’r partneriaethau a’r dibyniaethau hyn mewn ffordd sy’n ei gwneud hi’n bosibl cydweithio’n gadarnhaol a chyflawni’n llwyddiannus. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer meysydd gwaith allweddol fel Platfform Cyffredin a Ffeil Achos Digidol. Rydym yn gwybod y byddwn yn gweithredu mewn amgylchedd cymhleth sy’n esblygu am flynyddoedd i ddod – ond rydym yn dal yn hyderus y bydd y gwelliannau rydym yn eu blaenoriaethu nid yn unig yn mynd i’r afael â’r heriau hyn, ond hefyd yn diogelu ein gallu i erlyn yn deg ac yn annibynnol yn y tymor hir.