Rhagair gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus
Mae’n bleser gennyf gyflwyno cynllun busnes eleni, y pedwerydd o dan ein strategaeth bum mlynedd uchelgeisiol, CPS 2025. Mae’r cynllun yn nodi’r prosiectau newid blaenoriaeth o dan bob un o’n pum nod strategol – ein pobl, gallu digidol, partneriaethau strategol, ansawdd gwaith achos a hyder y cyhoedd.
Mae ein hamodau gweithredu yn dal i fod yn heriol, yn enwedig oherwydd bod adfer o’r pandemig yn daith hir ac anodd. Mae ôl-groniadau – ynghyd â phwysau gweithredol ac ariannol eraill – yn parhau i arwain at oedi i ddioddefwyr, i dystion ac i ddiffynyddion.
Nid yw’r rhain yn heriau a fydd yn cael eu datrys dros nos, ond rydym yn parhau i weithio’n galed ochr yn ochr â’n partneriaid i sicrhau cyfiawnder er gwaethaf y pwysau – ac rydym yn falch o gydnerthedd a hyblygrwydd ein pobl yn wyneb amgylchiadau heriol.
Mae ein gwaith cynllunio ar gyfer 2023/24 yn parhau i elwa o setliad tair blynedd yr Adolygiad o Wariant y llynedd. Mae hyn wedi cael ei brofi drwy Adolygiad Effeithlonrwydd ac Arbedion y Llywodraeth, a oedd wedi cadarnhau y bydd angen i ni ymdopi â rhagor o bwysau, naill ai o’r tu mewn i’r system cyfiawnder troseddol neu o’r amgylchedd ariannol.
Eleni, rydym yn blaenoriaethu adferiad gweithredol parhaus ar ôl y pandemig, streiciau ac ôl-groniadau, ochr yn ochr â gwelliannau hanfodol i’n ffordd o weithio – gan gynnwys cynyddu ein gallu digidol i gyflawni gwaith achos o ansawdd uwch gyda llai o oedi. Ynghyd â'n partneriaid ar draws y system cyfiawnder troseddol, rydym yn dal i ganolbwyntio ar gynyddu nifer yr achosion o dreisio sy’n mynd i’r llys ac ar feithrin hyder y cyhoedd yn y ffordd yr ydym yn delio â thrais yn erbyn merched. Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy’n deg i bawb. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddiwygio ein gwasanaeth i ddioddefwyr, yn enwedig y rhai sydd â’r angen mwyaf.
Rydym yn tyfu fel sefydliad. Mae gennym gynllun gweithlu strategol newydd ac rydym yn gwneud ymdrechion o’r newydd i recriwtio a hyfforddi erlynwyr medrus o amrywiaeth o gefndiroedd. Rydym wedi ymrwymo i recriwtio’r bobl iawn ar gyfer y swyddi iawn a darparu’r adnoddau sydd eu hangen ar ein cyd-weithwyr i weithredu’n effeithlon. Mae ein pobl wrth galon popeth a wnawn a ph’un ai eu bod yn gweithio yn y llys, mewn swyddfeydd neu gartref, rydym yn eu cefnogi i sicrhau cyfiawnder drwy gynnig datblygiad a lles cynhwysfawr.
Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn parhau i gael ein harwain gan ein gwerthoedd – trin pawb â pharch; bod yn annibynnol, yn deg, yn agored ac yn onest; ymddwyn yn broffesiynol ac anelu at ragoriaeth. Ym mhopeth a wnawn, mae ein nod yn syml: troseddwyr yn wynebu cyfiawnder, dioddefwyr a diffynyddion yn cael eu trin yn deg, a’r cyhoedd yn cael eu gwneud yn fwy diogel.

Max Hill KC
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus