Trosolwg o gynllun cyflawni 2022/23
Mae’r trosolwg isod yn tynnu sylw at ein prif brosiectau a’u hallbynnau ar gyfer 2022/23 wedi’u grwpio yn ôl eu prif themâu a chanlyniadau, fel y nodir yn ein Strategaeth CPS 2025. Mae’r allbynnau hyn yn seiliedig ar dybiaethau cynllunio sy’n adlewyrchu’r adnoddau a’r cyfyngiadau presennol. Bydd y cynllun busnes hwn yn cyfrannu hefyd at y gwaith o gyflawni canlyniadau’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn yr Adolygiad o Wariant.
Ein Pobl
| Canlyniad strategol | Prosiect | Cwmpas | Prif allbynnau |
|---|---|---|---|
| Ein Pobl: Mae pob rhan o’n gweithlu yn amrywiol ac yn gynhwysol | Profiad y Gweithiwr | Gwella ein diwylliant cynhwysol sy’n darparu amgylchedd diogel lle gall pawb fod yn nhw eu hunain a ffynnu. |
|
| Ein Pobl: Mae gan ein pobl y sgiliau a’r offer sydd eu hangen arnynt i ffynnu | Diweddaru Cynllun Gweithlu Strategol | Targedu’r cyflenwad a’r galw cynyddol am adnoddau, a sicrhau bod amrywiaeth a chynhwysiant yn dal yn ganolog i’n dull gweithredu. |
|
| Ein Pobl: Mae ein diwylliant cefnogol yn hyrwyddo llesiant | Glasbrint pobl a newid | Cynnig dull cyson i newid sy’n ymwneud â phobl. |
|
| Ein Pobl: Mae ein pobl yn arwain gyda’n gwerthoedd | Gweithio Hybrid | Sicrhau bod gan Wasanaeth Erlyn y Goron y gefnogaeth a’r seilwaith priodol i alluogi a gwreiddio Gweithio Hybrid llwyddiannus ar gyfer holl weithwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron. |
|
| Fframwaith Arweinyddiaeth | Fframwaith arweinyddiaeth hygyrch i alluogi ein pobl i arwain gyda'n gwerthoedd ar bob lefel. |
|
Gallu Digidol
| Canlyniad strategol | Prosiect | Cwmpas | Prif allbynnau |
|---|---|---|---|
| Gallu Digidol: Rydym yn rhagweithiol wrth fuddsoddi yn ein gallu digidol | Gweithle Modern | Gwell profiad i ddefnyddwyr a dibynadwyedd systemau a thechnoleg allweddol. |
|
| Uwchsgilio Mewnol | Gwella sgiliau digidol ein gweithlu a rhoi mwy o ffocws ar gyfathrebu dwyffordd a chymorth i ddefnyddwyr. |
|
|
| Gallu Digidol: Rydym yn arloesi, gan gynnwys gyda thechnoleg ddatblygol | Adnoddau Gwaith Achos ac Arloesi Digidol yn y Dyfodol | Darparu dull cyson sy’n hawdd ei ddefnyddio drwy uno systemau digidol i wella ansawdd gwaith achos a boddhad defnyddwyr. |
|
| Platfform Cyffredin | Er mwyn gallu rhannu deunyddiau achosion, cydweithio a hwyluso achosion yn effeithiol. |
|
|
| Ffeil Achos Digidol | Gwella’r broses o rannu gwybodaeth am achosion rhwng yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron. |
|
|
| Gallu Digidol: Mae gennym ni hyder yn niogelwch ein systemau | Diogelwch, Monitro a Llywodraethu | Mae systemau, prosesau a gweithdrefnau monitro effeithiol ar waith i sicrhau bod modd adnabod a gweithredu ar fygythiadau newydd a bygythiadau sy’n dod i’r amlwg. |
|
| Gallu Digidol: Rydym yn defnyddio data i sbarduno newid | Strategaeth Ddata | Creu strategaeth ddata sy’n caniatáu i Wasanaeth Erlyn y Goron gael gafael ar adnoddau dadansoddi a menter grymus y gall eu defnyddio ei hun. |
|
Partneriaethau Strategol
| Canlyniad strategol | Prosiect | Cwmpas | Prif allbynnau |
|---|---|---|---|
| Partneriaethau Strategol: Rydym yn arwain ar syniadau ar gyfer y dyfodol i ddeall materion ar draws y System Cyfiawnder Troseddol | Cynllunio Strategol | Darparu mecanweithiau cadarn i sicrhau bod cynllunio tymor hir yn cael ei alluogi, ei gefnogi a’i gyflawni’n effeithiol. |
|
| Partneriaethau Strategol: Rydym yn dylanwadu ar newid ar draws y System Cyfiawnder Troseddol drwy berthnasoedd rydym yn ymddiried ynddynt | Partneriaethau Strategol | Mae gan ardaloedd adnoddau a gwybodaeth i reoli Partneriaethau Strategol a gwella sgiliau uwch bartneriaethau. |
|
| Troseddau Economaidd | Gwell canlyniadau o ran cyfiawnder troseddol mewn achosion twyll drwy helpu i gael mwy o allu a chapasiti ym mhob cam o’r system cyfiawnder troseddol. |
|
|
| Partneriaethau Strategol: Rydym yn cynghori Seneddwyr a Gweinidogion ar oblygiadau gweithredol y gyfraith a pholisi | Ymgysylltu ag ASau lleol | Mae gan ardaloedd adnoddau a gwybodaeth i reoli partneriaethau strategol a gwella sgiliau uwch bartneriaethau. |
|
| Partneriaethau Strategol: Rydym yn sicrhau cyfiawnder ar draws ffiniau drwy gydweithio’n effeithiol yn rhyngwladol | Strategaeth Ryngwladol Gwasanaeth Erlyn y Goron | Cydweithredu effeithiol ac effeithlon â phartneriaid rhyngwladol ar MLA, estraddodi ac enillion gwaith achos troseddau, gan sicrhau gwell canlyniadau cyfiawnder troseddol gartref. |
|
Ansawdd Gwaith Achos
| Canlyniad strategol | Prosiect | Cwmpas | Prif allbynnau |
|---|---|---|---|
| Ansawdd Gwaith Achos: Mae’r person cywir yn cael ei erlyn am y drosedd gywir | Fframwaith Perfformiad RASSO | Datblygu fframwaith perfformiad RASSO gwell gyda mesurau llwyddiant. Gweithredu’r camau sydd yn y diweddariad ar Strategaeth Treisio Gwasanaeth Erlyn y Goron. |
|
| Ansawdd Gwaith Achos: Mae achosion yn mynd rhagddynt yn brydlon | Adferiad Gweithredol | Rheoli adferiad Gwasanaeth Erlyn y Goron i lefelau cyn y pandemig a gweithgareddau gwella er mwyn i ni gyflawni ein gwaith achos a’n gweithrediadau’n effeithiol. |
|
| Strategaeth Adfocadau | Recriwtio a datblygu adfocadau o bob cefndir sy’n gweithredu ar draws pob lleoliad llys. |
|
|
| Ansawdd Gwaith Achos: Ymdrinnir ag achosion yn effeithiol | Newid Gweithredol o ran Cam-drin Domestig | Gwella ansawdd gwaith achos mewn perthynas â Cham-drin Domestig drwy leihau cyfraddau gadael. |
|
| Gwella’r Model Cyhuddiadau | I wella prydlondeb y penderfyniadau ynghylch cyhuddiadau yn sylweddol er budd dioddefwyr, tystion, diffynyddion a’r cyhoedd. |
|
|
| Gweithredu’r Adolygiad Natur Newidiol Troseddu | Unedau busnes arbenigol gydag offer gwell. |
|
|
| Adolygiad Treisio, Cydgynllun Gweithredu Cenedlaethol a Throseddau Rhywiol Difrifol a Threisio | Cyflawni ymrwymiadau RASSO cyhoeddus Gwasanaeth Erlyn y Goron a sicrhau bod gan y cyhoedd fwy o hyder yn y ffordd y mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn delio â gwaith achos. |
|
|
| Troseddau Mewnfudo Cyfundrefnol | Sicrhau bod gan Wasanaeth Erlyn y Goron y gallu i ddelio ag unrhyw gynnydd mewn niferoedd a sicrhau bod polisi’n cael ei ddilyn a’i roi ar waith yn gyson. |
|
|
| Ansawdd Gwaith Achos: Mae ansawdd ein gwaith achos yn gwella drwy weithio mewn partneriaeth | Ymgyrch Soteria | Cyflwyno cynlluniau braenaru Ymgyrch Soteria drwy nodi dulliau arloesol o sicrhau gwell perfformiad gan yr erlyniad yn erbyn meini prawf a fesurir. |
|
Hyder y Cyhoedd
| Canlyniad strategol | Prosiect | Cwmpas | Prif allbynnau |
|---|---|---|---|
| Hyder y Cyhoedd: Mae dioddefwyr a thystion yn cael profiad teg wrth ryngweithio â ni, waeth beth fo'r canlyniad. | Dioddefwyr a Thystion | Mae dioddefwyr yn cael gwybodaeth glir, amserol a chywir am achos, ac mae’r dioddefwyr yn fwy bodlon a’r ymgysylltu’n well. |
|
| Trais yn erbyn Menywod a Merched | Meithrin hyder a dealltwriaeth y cyhoedd wrth ddelio ag achosion Trais yn erbyn Menywod a Merched. |
|
|
| Hyder y Cyhoedd: Rydym yn llais arweiniol wrth sicrhau bod diffynyddion yn cael eu trin yn deg gan y System Cyfiawnder Troseddol | Diffynyddion, Anghymesuredd a Gwahaniaethau o ran Cyhuddiadau | Deall a rhoi sylw i unrhyw wahaniaethau o ran rhyw, oed a hil mewn penderfyniadau ynghylch cyhuddiadau mewn Ardal, a sicrhau bod diffynyddion yn cael eu trin yn deg. |
|
| Hyder y Cyhoedd: Rydym yn deall y ffordd orau i wasanaethu ein cymunedau amrywiol | Cynhwysiant ac Ymgysylltu â’r Gymuned | I gynnwys dull wedi’i seilio ar ddata i reoli Cynhwysiant ac Ymgysylltu â’r Gymuned. |
|
| Rhaglen o arolygon ac arolygu | Mwy o ddealltwriaeth ac ymddiriedaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron ymysg y grwpiau a nodwyd. |
|
|
| Hyder y Cyhoedd: Mae’r cyhoedd yn deall ein gwerth | Meysydd blaenoriaeth mewn ymgyrchoedd | Canolbwyntio ein cyfathrebu ar faterion sy’n bwysig i’r cyhoedd. |
|
| Strategaeth Cyfathrebu Digidol | Ehangu ein defnydd o sianeli digidol i feithrin dealltwriaeth o’n gwaith a chefnogi deialog ystyrlon gyda’n cymunedau. |
|