Skip to main content

Accessibility controls

Contrast
Main content area

Dedfrydu llofruddwyr Logan Mwangi

|News, Violent crime

Mae tri unigolyn wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd am lofruddio bachgen 5 mlwydd oed yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Canfuwyd John Cole, 40, Angharad Williamson, 30, a bachgen 14 mlwydd, Craig Mulligan, oed yn euog o lofruddiaeth wedi i’r rheithgor glywed yr holl dystiolaeth, a oedd yn cynnwys lluniau teledu cylch cyfyng o John Cole yn cario corff Logan at afon yn agos at y cartref.

O’r lluniau teledu cylch cyfyng gwelwyd bod Cole yng nghwmni’r bachgen ifanc a bod Williamson yn ystafell wely Logan yn yr eiddo.

Gwadodd y tri unrhyw ran ym marwolaeth Logan, ond cyfaddefodd Cole iddo gael gwared ar y corff wedi i Logan farw yn y tŷ.

Ffoniodd Angharad Williamson, mam Logan, yr heddlu i ddweud ei fod ar goll, a bod Cole a Mulligan allan yn chwilio amdano.

O’r archwiliad meddygol o anafiadau Logan, roeddynt yn debyg i anafiadau a geir wrth gwympo o uchder sylweddol neu ddamwain ffordd ar gyflymder uchel.

Dywedodd Mani Ranauta o’r CPS: “Roedd hon yn llofruddiaeth giaidd ac oeraidd.  Disgrifiwyd Logan fel plentyn pump oed hapus a siaradus; sef plentyn heb obaith o amddiffyn ei hun rhag yr union bobl a ddylai fod wedi bod yn gofalu amdano.

“Roedd hi’n bwysig i’r CPS gyflwyno’r achos cryfaf bosib er mwyn sicrhau cyfiawnder i Logan, ac rydym yn falch fod hyn wedi ei wneud nawr.

“Bydd yr achos dychrynllyd hwn yn aros yng nghof fy nghydweithwyr a minnau yn sicr, ac mae Logan yn parhau yn ein meddyliau.”

Dedfrydwyd John Cole i garchar am oes a gorchmynnwyd iddo aros yn y ddalfa am o leiaf 29 mlynedd. Cafodd Angharad Williamson ei dedfrydu i garchar am oes hefyd a’i gorchymyn i aros yn y ddalfa am o leiaf 28 mlynedd, tra bod y bachgen wedi’i ddedfrydu i 15 mlynedd a bydd ar drwydded am oes.

Notes to editors

  • Mae Mani Ranauta yn Uwch Erlynydd y Goron yn CPS Cymru-Wales
  • Plediodd John Cole (Dyddiad geni: 4/2/1982) yn euog i weithredu mewn modd a oedd â’r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chafodd ei farnu’n euog o lofruddiaeth
  • Cafodd Angharad Williamson (Dyddiad geni: 16/3/1991) a Craig Mulligan eu barnu’n euog o lofruddiaeth a gweithredu mewn modd a oedd â’r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder
  • Ar ôl gyfyngiadau adrodd gael eu codi, gellir enwi'r diffynnydd ieuenctid fel Craig Mulligan.
  • Bu farw Logan Mwangi ar 31 Gorffennaf 2021 yn bum mlwydd oed.

Further reading

Scroll to top