Chwilio Manwl

Eich CPS

Mae’r CPS yn bodoli er mwyn sicrhau bod drwgweithredwyr yn cael eu dwyn gerbron y system gyfiawnder, bod dioddefwyr troseddau’n cael eu cefnogi a bod pobl yn teimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau.

"Mae’r CPS yn parhau i wneud cynnydd tuag at gyflawni ei nod o adeiladu gwasanaeth erlyn o safon fyd-eang."
Ken Macdonald, Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus

Ffeithiau am Wasanaeth Erlyn y Goron

pobl wedi ymgasglu o gwmpas bwrdd gwynSefydlwyd Gwasanaeth Erlyn y Goron ym 1986 i erlyn achosion troseddol a archwiliwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Wrth ymgymryd â’r rôl hon, mae’r CPS:


  • Yn cynghori’r heddlu ar achosion y gellid eu herlyn.
  • Yn adolygu achosion a gyflwynwyd gan yr heddlu ar gyfer erlyniad
  • Lle penderfynir erlyn, yn pennu pa gyhuddiad i’w ddefnyddio ymhob achos heblaw am rai bach.
  • Yn paratoi achosion at y llys
  • Yn cyflwyno’r achosion hynny gerbron y llys

Rhagor o ffeithiau ynghylch y CPS

Cyhuddo statudol

Eich CPS Lleol

Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron bencadlys yn Llundain, Efrog a Birmingham ac mae’n gweithredu strwythur o 42 Ardal yng Nghymru a Lloegr. Rhagor o wybodaeth am eich CPS lleol.

Dioddefwyr a Thystion

Crëwyd Unedau Gofal Tystion (WCU) o dan y fenter Dim Tyst Dim Cyfiawnder er mwyn darparu lefel uwch o wasanaeth i’r holl bobl hynny sy’n dioddef troseddau ac i holl dystion troseddau yng Nghymru a Lloegr mewn achosion lle dygwyd cyhuddiad. Bellach, mae WCU ymhob ardal, a’r rheini wedi eu staffio gan yr heddlu a phersonél y CPS.

Dioddefwyr a thystion

Gwybodaeth i helpu dioddefwyr troseddau drwy’r profiad o chwarae rhan yn y system cyfiawnder troseddol

Gwybodaeth bellach i ddioddefwyr a thystion