Chwaraeon a Chymdeithasu yn y CPS
Cefndir
Sefydlwyd y Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol (CPSSSC), er mwyn annog gweithgareddau chwaraeon a chymdeithasol er budd staff yn y CPS.
Adfywiwyd yr CPSSSC yn 2000 er mwyn trefnu’r Diwrnod Chwaraeon CPS cyntaf. Yn y lle cyntaf, fe’i adnabyddid o dan y teitl Cymdeithas Chwaraeon a Chymdeithasol y DPP, ac fe newidiodd yn swyddogol i’r CPSSSC ym 1990.
Fel adran fach yn y Gwasanaeth Sifil, mae’n gweithio’n agos â Chyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC) er mwyn darparu cyfleodd i holl staff y CPS gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chymdeithasol.
Cronfeydd y CPSSSC
Mae Chwaraeon a Hamdden CSSC yn darparu grant blynyddol i’r CPSSSC sy’n seiliedig ar aelodaeth staff CSSC. Mae cyfraniadau’r aelodau’n cael eu casglu’n uniongyrchol o gyflogau.
Ymaelodi
P’un a ydych yn aelod parhaol o’r staff neu ar gontract penodol ei dymor, cewch ymaelodi â’r CSSC. Ac fel aelod o’r CSSC cewch gymryd rhan yn y digwyddiadau chwaraeon a chymdeithasol amrywiol sy’n cael eu rhedeg gan yr CSSC.
