Rhwydwaith LGBT y CPS
Cefndir
Mae rhwydwaith LGBT y CPS yn un o nifer o Rwydweithiau Cymorth i’r Staff sy’n derbyn cefnogaeth swyddogol Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Ffurfiwyd y Rhwydwaith LGBT ym mis Ionawr 2002 er mwyn gweithredu fel rhwydwaith cefnogi i staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsgender yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron.
Y syniad a gychwynnodd y rhwydwaith oedd i leihau teimladau ynysedd y staff LGBT yn y swyddfeydd llai, drwy roi aelodau staff LGBT mewn cysylltiad â’i gilydd, yn yr adran ac yn y gwasanaeth sifil ehangach.
Mae’r Rhwydwaith yn gweithio gyda’r CPS ar y polisïau amrywiol sy’n effeithio ar y gymuned LGBT megis Polisi erlyn ar droseddau Homoffobig a’r dull y mae’r Gwasanaeth wedi gweithredu’r Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogi (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003.
