Gwasanaeth Erlyn y Goron : y Cynllun Hyfforddeion Cyfreithiol
Mae’r Cynllun Hyfforddeion Cyfreithiol yn cynnwys disgybleddau a chontractau hyfforddiant a byddwn fel arfer yn rhedeg un ymgyrch i’r ddau gyda’i gilydd. Gall y broses ymgeisio amrywio ond ar hyn o bryd, byddwn yn hysbysebu un flwyddyn cyn y dyddiad dechrau, sef Hydref y flwyddyn ddilynol, felly rhaid bod ymgeiswyr wedi cwblhau’r LPC neu’r BVC neu fod ar flwyddyn olaf eu hastudiaethau.
Bydd nifer y contractau hyfforddiant a disgybleddau sydd ar gael yn ystod unrhyw un flwyddyn yn amrywio yn unol ag anghenion busnes Ardaloedd y CPS. Mae’r holl ddisgybleddau am 12 mis a’r contractau hyfforddiant am 24 mis, ac maent yn cynnig hyfforddiant mewn cyfreitha troseddol. Bydd cyfreithwyr o dan hyfforddiant yn treulio rhwng chwech ac wyth mis mewn cwmni preifat er mwyn magu profiad mewn dwy sedd gyfreithiol arall, er mwyn diwallu gofynion Cymdeithas y Cyfreithwyr. Gall disgyblion wasanaethu’r 12 mis llawn gyda’r CPS ond byddant yn treulio mis mewn Siambrau er mwyn magu profiad o’r Bar annibynnol.
Gosodir y drefn ymgeisio yn yr hysbyseb ac fel arfer, bydd yn cynnwys:
- Ffurflen gais ar-lein
- Profion geiriol a rhifol ar-lein
- Profion ymresymu critigol
- Cyflwyno astudiaeth achos ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Cyfweliad
Bydd pob hyfforddai cyfreithiol yn derbyn hyfforddiant anwytho llawn a chânt eu goruchwylio gan gyfreithiwr profiadol.
Gellir hefyd wahodd ymgeiswyr llwyddiannus i dreulio wythnos o leoliad â thâl yn ystod yr haf cyn dechrau ar y swydd newydd ym mis Hydref. Pwrpas y lleoliad yw:
- Dod i adnabod eu goruchwylwyr, Prif Erlynydd y Goron, Rheolwr Busnes yr Ardal a’r staff sy’n gweithio yn y tîm a’r Ardal;
- Cwblhau’r modiwl anwytho ar-lein;
- Cwblhau’r anwytho lleol;
- Mynychu’r llys gyda’r goruchwyliwr ac erlynwyr profiadol eraill;
- Os yn bosibl, mynychu anwytho â’r Prif Hyfforddwr.
Mae’r CPS wedi ennill gwobr Law Careers.Net am fod yn Recriwtiwr a Hyfforddwr gorau dair blynedd yn olynol, ac, fel cam pedwar yr Ysgoloriaeth Gyfreithiol, fe’i cymeradwywyd yn fawr yng Ngwobrau Hyfforddiant Cenedlaethol 2006.
Ymholiadau at legal.trainees@cps.gsi.gov.uk.
Ymweld â’n Coleg Erlyn rhithwir yn http://prosecutioncollege.cps.gov.uk/
Rhagor o wybodaeth am yrfaoedd yn y CPS www.cps-careers.co.uk/legal-trainees.
Gwybodaeth am y Cynllun Hyfforddeion Cyfreithiol PDF

