Gwahanol Yrfaoedd
Erlynydd
Mae erlynwyr yn gyfrifol am adolygu a, lle bo’n briodol, erlyn achosion troseddol yn sgîl archwilio gan yr heddlu. Maent hefyd yn cynghori’r heddlu ar faterion sy’n ymwneud ag achosion troseddol.
Ymhob achos, bydd yr erlynydd yn ystyried a oes tystiolaeth ddigonol ac os oes, p’un a yw er budd y cyhoedd i erlyn.
Cymwysterau
Er mwyn ymgeisio am swydd fel cyfreithiwr rhaid i chi fod yn dwrnai, wedi’ch derbyn yng Nghymru neu Loegr ac yn meddu ar dystysgrif ymarfer gyfredol lawn, neu’n fargyfreithiwr a alwyd i Far Lloegr sydd wedi cwblhau disgybledd.
Bydd arnoch angen:
Sgiliau eirioli a threfnu personol ardderchog, ynghyd â’r gallu i weithio’n effeithiol o fewn tîm. Rhaid wrth farn gadarn a’r gallu i weithio’n gywir o dan bwysau.
Gweithiwr Achos
Rôl gweithiwr achos yw ymgymryd â swyddogaethau gwaith achos drwy gynorthwyo erlynwyr i reoli achosion drwy brosesu gwaith achos a’i baratoi’n gychwynnol. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys paratoi gwaith achos, gwaith achos personol, rheolaeth, mynychu’r llys, gweinyddiaeth wedi’r llys, asesu ffïoedd proffesiynol ac ymgynghori â thystion a sefydliadau eraill o fewn y system cyfiawnder troseddol.
Bydd arnoch angen:
- Barn gadarn a’r gallu i lunio barn gytbwys heb duedd, a’r gallu i ddadansoddi problemau ac i lunio atebion ymarferol iddynt y gellir eu rhoi ar waith
- y gallu i weithio fel rhan o dîm, yn aml o dan bwysau
- profiad o reoli staff, neu’r potensial i wneud hynny
- blaenoriaethu gwaith a rheoli’ch amser eich hun yn effeithiol, a’r gallu i gydbwyso blaenoriaethau sy’n gwrthdaro lle bo angen hynny.
Gweinyddol
Mae staff eraill yn gweithio mewn swyddogaethau gweinyddol megis cyllid, technoleg gwybodaeth, hyfforddiant, personél a chymorth i’r rheolwyr.
Bydd gweinyddwyr yn cael eu recriwtio o bob math o gefndiroedd, gydag amrywiaeth o brofiad a gallu.
Bydd arnoch angen:
sgiliau trefnu ardderchog, y gallu i gyfathrebu’n eglur ac yn hyderus, a’r gallu i weithio’n dda o dan bwysau, byddwch yn dangos mentergarwch, egni a phenderfyniad mewn amgylchedd tîm.
