Hafan » Gweithio i’r CPS » Manteision Gweithio yn y CPS
Manteision Gweithio yn y CPS
- Cyfleoedd i fagu profiad mewn swyddogaeth wahanol neu i arbenigo mewn maes penodol
- Cyfleoedd i weithio’n hyblyg, gan gynnwys oriau hyblyg, gweithio rhan amser, rhannu swyddi a thoriadau gyrfa
- 22/25 o wyliau blynyddol gyda’r potensial i godi i 30 diwrnod. Yn ogystal, mae 10.5 diwrnod o wyliau cyhoeddus a gwyliau braint
- Cymorth gyda gofal plant drwy gynllun gofal plant yr adran
- Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- Hyfforddi a Datblygu: rydym yn annog ein staff yn weithredol i dderbyn hyfforddiant a datblygiad proffesiynol. Darperir hyfforddiant drwy’ch swyddfa neu’r pencadlys neu drwy gyrsiau a gynhelir yn allanol. Mae’r amrediad eang o gyrsiau i gyfreithwyr wedi eu hachredu gan Gymdeithas y Cyfreithwyr. Yn ogystal, caiff staff y CPS fanteisio ar raglenni a chyrsiau sy’n cael eu rhedeg gan Goleg Hyfforddi’r Gwasanaeth Sifil. Fel yn achos Adrannau Llywodraethol eraill, mae’r CPS wedi ymrwymo i’r rhaglen Buddsoddywr mewn Pobl.