Hafan » Eich CPS » Dioddefwyr a Thystion » Y Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron » Y Prawf Trothwy
6. Y Prawf Trothwy
- Yn y Prawf Trothwy rhaid i Erlynwyr y Goron benderfynu a oes amheuaeth resymol o leiaf bod y sawl a ddrwgdybir wedi cyflawni trosedd, ac os oes, a yw cyhuddo’r sawl a ddrwgdybir er budd y cyhoedd.
- Bydd y Prawf Trothwy yn cael ei gymhwyso i’r achosion hynny ble na fyddai’n briodol rhyddhau’r sawl a ddrwgdybir ar fechnïaeth ar ôl ei gyhuddo, ond nad yw’r dystiolaeth ar gael hyd yma i gymhwyso’r Prawf Côd Llawn.
- Mae yna derfynau statudol sy’n cyfyngu ar yr amser y gall y sawl a ddrwgdybir aros yn nalfa’r heddlu cyn bod raid gwneud penderfyniad i’w gyhuddo neu ei ryddhau. Fe fydd yna achosion ble byddai rhyddhau’r sawl a ddrwgdybir o’r ddalfa ar fechnïaeth yn peri risg sylweddol, ond mae’n bosib na fydd llawer o’r dystiolaeth ar gael pan ddaw’n adeg penderfynu cyhuddo ai peidio. Bydd Erlynwyr y Goron yn cymhwyso’r Prawf Trothwy i achosion o’r fath am gyfnod cyfyngedig.
- Bydd y penderfyniad tystiolaethol ym mhob achos yn gofyn am ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys:
- y dystiolaeth sydd ar gael ar y pryd;
- y tebygolrwydd y ceir rhagor o dystiolaeth a natur y dystiolaeth honno;
- yr amser a gymerir i gasglu’r dystiolaeth honno a’r camau ar y gweill er mwyn gwneud hynny;
- effaith y dystiolaeth ddisgwyliedig ar yr achos;
- effaith y dystiolaeth ddisgwyliedig ar yr achos;
- y cyhuddiadau y bydd y dystiolaeth yn eu cefnogi.
- Yr un ystyr sydd i fudd y cyhoedd ag o dan y Prawf Côd Llawn, ond bydd yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael adeg y cyhuddo, sef gwybodaeth gyfyngedig yn aml.
- Rhaid dal i arolygu penderfyniad i gyhuddo ac atal mechnïaeth. Rhaid i’r dystiolaeth a gesglir gael ei chloriannu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cyhuddiad yn dal yn briodol a bod cyfiawnhad dros barhau i wrthod mechnïaeth. Rhaid cymhwyso’r