Hafan » Eich CPS » Dioddefwyr a Thystion » Y Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron » Rôl Yr Erlynydd Wrth Ddedfrydu
11. Rôl Yr Erlynydd Wrth Ddedfrydu
- Dylai Erlynwyr y Goron dynnu sylw’r llys at:
- unrhyw ffactorau gwaethygol neu liniarol a ddadlennir gan achos yr erlyniad;
- unrhyw ddatganiad personol gan y dioddefydd;
- ble bo’n briodol, tystiolaeth o effaith y troseddu ar gymuned;
- unrhyw ddarpariaethau statudol neu ganllawiau ar ddedfrydu a allai fod o gymorth;
- unrhyw ddarpariaethau statudol perthnasol yn gysylltiedig â gorchmynion ategol (megis gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol).
- Dylai Erlynydd y Goron herio unrhyw haeriad lliniarol a wneir gan yr amddiffyniad sy’n anghywir, yn gamarweiniol neu’n niweidiol. Os bydd yr amddiffyniad yn parhau gyda’r haeriad, a’i fod yn ymddangos yn berthnasol i’r ddedfryd, dylid gwahodd y llys i wrando ar dystiolaeth i bennu’r ffeithiau a dedfrydu yn unol â hynny.