Chwilio Manwl

4. Adolygiad

  1. Bydd pob achos y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ei dderbyn gan yr heddlu yn cael ei arolygu er mwyn sicrhau ei bod hi’n briodol bwrw ymlaen â’r erlyniad. Oni bai fod y Prawf Trothwy yn berthnasol, ni fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dechrau neu’n parhau ag erlyniad oni bai fod yr achos wedi bodloni dau gam y Prawf Côd Llawn.
  2. Mae arolygu yn broses barhaus a rhaid i Erlynwyr y Goron ystyried unrhyw newid yn yr amgylchiadau. Lle bynnag y bo modd, dylent siarad â’r heddlu yn gyntaf os ydynt yn ystyried newid y cyhuddiadau neu atal yr achos. Dylai Erlynwyr y Goron ddweud wrth yr heddlu hefyd os ydynt o’r farn y gall rhywfaint o dystiolaeth ychwanegol gryfhau’r achos. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r heddlu ddarparu rhagor o wybodaeth a allai effeithio ar y penderfyniad.
  3. Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r heddlu yn cydweithio’n agos, ond Gwasanaeth Erlyn y Goron sy’n gyfrifol yn y pen draw am benderfynu a ddylid cyhuddo neu fwrw ymlaen ag achos ai peidio.