Chwilio Manwl

12. Ailddechrau Erlyniad

  1. Fe ddylai pobl allu dibynnu ar benderfyniadau Gwasanaeth Erlyn y Goron. Fel arfer, os bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud wrth rywun a ddrwgdybir neu ddiffynnydd na fydd yna erlyniad, neu fod yr erlyniad wedi’i atal, dyna ddiwedd ar y mater ac ni fydd yr achos yn ailddechrau. Ond weithiau fe fydd yna resymau arbennig pam y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ailddechrau erlyn, yn enwedig os yw’r achos yn un difrifol.
  2. Dyma rai o’r rhesymau:
    1. achosion prin lle bydd ailedrych ar y penderfyniad gwreiddiol yn dangos ei fod yn amlwg yn anghywir ac na ddylid caniatáu i’r penderfyniad sefyll;;
    2. achosion sy’n cael eu hatal er mwyn casglu a pharatoi rhagor o dystiolaeth sy’n debygol o fod ar gael yn y dyfodol cymharol agos. Yn yr achosion hyn, fe fydd Erlynydd y Goron yn dweud wrth y diffynnydd ei bod hi’n bosib y gallai’r erlyniad ddechrau eto; ac
    3. achosion sy’n cael eu hatal oherwydd diffyg tystiolaeth ond lle daw rhagor o dystiolaeth arwyddocaol i’r golwg yn ddiweddarach.
  3. Gall fod achosion eithriadol hefyd, yn dilyn rhyddfarnu person o gyflawni trosedd difrifol, ble gallai Erlynydd y Goron, gyda chaniatâd ysgrifenedig y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, wneud cais i’r Llys Apêl am orchymyn yn dileu’r rhyddfarnu a mynnu bod y diffynnydd yn cael ei ail-roi ar brawf, yn unol â Rhan 10 Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003.