Chwilio Manwl

Taith Rithwir

Mae gwefan y System Cyfiawnder Troseddol Ar Lein wedi datblygu taith rithwir ryngweithiol. Mae’r daith yn dangos y sefyllfaoedd y gallai tyst ddod ar eu traws; o’r adeg y bydd yr heddlu yn cael gwybod am drosedd, trwy ymchwiliad yr heddlu, penderfyniadau’r erlyniad, prosesau’r llys, a dedfrydu.

Y Penderfyniad i erlyn

Cefndir

Cyn sefydlu’r CPS ym 1986, yr heddlu fyddai’n penderfynu p’un a ddylid mynd ag achos gerbron y llys ai peidio.

Heddiw, y CPS sy’n penderfynu p’un a ddylid erlyn pobl yn y llys. Fodd bynnag, mae’r heddlu’n dal i ymchwilio’r drosedd honedig.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd Erlynwyr y Goron yn penderfynu p’un a ddylid cyhuddo person o dramgwydd troseddol, a bydd yn pennu’r cyhuddiad(au) priodol. Yn yr achosion hynny lle bydd yr heddlu’n pennu’r cyhuddiad, sydd fel arfer yn llai difrifol a mwy cyffredinol, byddant yn rhoi’r un egwyddorion ar waith.

Byddwn yn penderfynu erlyn ai peidio drwy gymhwyso Cod Erlynwyr y Goron i ffeithiau’r achos dan sylw.

Pen y dudalen

Cod Erlynwyr y Goron

Mae Cod Erlynwyr y Goron (y Cod) yn ddogfen gyhoeddus sy’n nodi’r egwyddorion sylfaenol y dylai Erlynwyr y Goron eu dilyn wrth benderfynu ar achosion. Cewch gopi gan eich swyddfa CPS leol.

Tra bo pob achos yn unigryw a thra bo rhaid ei ystyried yn ôl ei ffeithiau ac ar ei sail ei hun, mae rhai egwyddorion cyffredinol y mae’n rhaid i Erlynwyr y Goron eu dilyn wrth fynd i’r afael â phob achos. Rhaid iddynt fod yn deg, yn annibynnol ac yn wrthrychol. Rhaid iddynt beidio â gadael i unrhyw farn bersonol ynghylch tarddiad ethnig neu genedlaethol tyst, neu ei (h)anabledd, credoau crefyddol, barn wleidyddol, tueddiadau rhywiol, neu p’un a ydynt yn ddynion neu’n fenywod, ddylanwadu ar eu penderfyniadau.

Eu dyletswydd yw sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn am y drosedd gywir. Wrth wneud hynny, rhaid i Erlynwyr y Goron weithredu er budd cyfiawnder, ac nid yn unig er mwyn sicrhau euogfarn.

Pen y dudalen

Adolygu

Wrth benderfynu p’un a ddylid erlyn achos yn y llysoedd, bydd Erlynwyr y Goron yn ystyried y dewisiadau eraill heblaw am erlyn yn yr amgylchiadau priodol. Mae hyn yn cynnwys rhybudd syml i oedolion, neu i bobl ifanc, cerydd neu rybudd.

Pan fyddwn yn derbyn ffeil gan yr heddlu, bydd Erlynydd y Goron yn darllen y papurau ac yn penderfynu p’un a oes tystiolaeth ddigonol yn erbyn y diffynnydd ac a yw er budd y cyhoedd i ddwyn y person hwnnw gerbron y llys. Oherwydd y gall amgylchiadau newid, rhaid i Erlynydd y Goron gadw’r achos o dan adolygiad parhaol. Os yw Erlynydd y Goron yn ystyried newid y cyhuddiadau neu atal yr achos, byddant yn cysylltu â’r heddlu lle bynnag y bo’n bosibl. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r heddlu ddarparu rhagor o wybodaeth a allai effeithio ar y penderfyniad.

Er bod yr heddlu a’r CPS yn cydweithio’n agos, rydym yn gwbl annibynnol ar ein gilydd ac mae’r cyfrifoldeb terfynol am benderfynu p’un a ddylid bwrw ymlaen â throsedd a gyhuddwyd yn aros yn nwylo’r CPS.

Rhaid i Erlynwyr y Goron ofyn i’w hunain y ddau gwestiwn canlynol wrth iddynt benderfynu

A oes digon o dystiolaeth yn erbyn y diffynnydd?

Rhaid bod tystiolaeth ddigonol er mwyn darparu ‘rhagolwg rhesymol’ o gael y diffynnydd yn euog. Mae rhagolwg realistig o euogfarnu yn brawf gwrthrychol. Mae’n golygu y bydd rheithgor neu fainc o ynadon, wedi eu cyfarwyddo’n briodol yn unol â’r gyfraith, yn fwy tebygol na pheidio o gael y diffynnydd yn euog o’r cyhuddiad. Mae hwn yn brawf gwahanol i’r un y mae’n rhaid i’r llysoedd troseddol eu hunain ei gymhwyso. Dylai rheithgor neu lys ynadon ond cael y diffynnydd yn euog os ydynt yn sicr ei fod yn euog.

Wrth benderfynu a oes digon o dystiolaeth i erlyn, rhaid i Erlynwyr y Goron benderfynu p’un a ellir defnyddio’r dystiolaeth yn y llys ac a yw’n ddibynadwy. Golyga hyn fod yn rhaid iddynt asesu ansawdd y dystiolaeth gan bob tyst cyn penderfynu. Nid yw penderyfnu gollwng achos yn golygu bod yr erlynydd wedi penderfynu credu un tyst ac i beidio â chredu tyst arall.

Os nad oes rhagolwg rhesymol o euogfarnu, rhaid i’r achos beidio â mynd yn ei flaen, waeth pa mor bwysig neu ddifrifol y bo.

Os oes rhagolwg rhesymol o euogfarnu, bydd Erlynydd y Goron yn gofyn y cwestiwn nesaf.

A yw er budd y cyhoedd i’r CPS ddwyn yr achos gerbron llys?

Ni fu’n rheol erioed yn y wlad hon bod yn rhaid i bob tramgwydd troseddol caei ei erlyn yn awtomatig. Oherwydd hyn, ymhob achos, rhaid i Erlynydd y Goron ystyried budd y cyhoedd o ran bwrw ymlaen ag erlyniad a chydbwyso ffactorau o blaid ac yn erbyn erlyn yn ofalus ac yn deg cyn penderfynu.

Fel arfer, bydd erlyniad yn digwydd oni bai bod ffactorau budd y cyhoedd yn tueddu’n glir yn erbyn erlyn yn gwrthbwyso’r rheini sy’n tueddu o blaid.

Bydd ffactorau budd y cyhoedd a all effeithio ar y penderfyniad i erlyn yn amrywio o achos i achos. A siarad yn fras, po fwyaf difrifol y drosedd honedig, po fwyaf tebygol ydyw y bydd angen erlyn er budd y cyhoedd. Ar y llaw arall, mae’n llai tebygol y bydd angen erlyn, os, er enghraifft, y byddai llys yn debygol o bennu arwydd o gosb neu fân gosb neu os oedd y golled neu’r difrod sy’n gysylltiedig â’r drosedd yn fân ac yn ganlyniad i ddigwyddiad sengl.

Pen y dudalen

Dioddefwyr Troseddau

Bydd y CPS yn erlyn troseddau ar ran y cyhoedd yn gyffredionl ac nid er budd unrhyw unigolyn penodol. Ar sail hyn, er bod buddiannau’r dioddefwyr yn bwysig, ni allant fod yn ystyriaeth derfynol adeg penderfynu p’un a ddylid erlyn.

Fodd bynnag, wrth ystyried budd y cyhoedd, dylai Erlynwyr y Goron ystyried bob amser y canlyniadau i’r dioddefwyr o’r penderfyniad i erlyn ai peidio ac unrhyw farn a fynegir gan deulu’r dioddefwyr.

Pen y dudalen

Y Prawf Trothwy

Mae rhai achosion lle na fyddai’n briodol rhyddhau person ar fechnïaeth wedi cyhuddo, ond nad yw’r dystiolaeth i bennu a oes ‘rhagolwg rhesymol o euogfarnu’ eto ar gael. Er enghraifft, mae’n bosibl na chafwyd eto dystiolaeth feddygol neu dystiolaeth arall yn yr amser cyfyng sydd ar gael cyn cyhuddo. Fodd bynnag, rhaid bod tystiolaeth ddigonol o leiaf am ddrwgdybiaeth resymol bod y person wewdi cyflawni trosedd a rhaid ei bod er budd y cyhoedd i’w gyhuddo. Y Prawf Trothwy yw’r enw a roddir ar hyn ac fe’i rhoddir ar waith yn gynnar yn yr achosion hyn am gyfnod cyfyng. Yna, rhoddir Prawf Llawn y Cod ar waith cyn gynted â phosibl wedi hynny.

Pen y dudalen

Dewis y cyhuddiadau

Pan fyddant yn adolygu achos, rhaid i Erlynwyr y Goron bob tro ystyried p’un a yw’r cyhuddiadau yn erbyn y diffynnydd yn gywir. Rhaid iddynt sicrhau bod y cyhuddiadau’n adlewyrchu difrifoldeb y troseddu ac yn rhoi pwerau dedfrydu digonol i’r llys. Lawn cyn bwysiced yw bod dewis a nifer y cyhuddiadau’n caniatáu i’r achos gael ei esbonio i’r llys mewn modd clir a syml.

Golyga hyn, o dro i dro, y caiff Erlynydd y Goron addasu’r cyhuddiad yn erbyn y diffynnydd os bydd un sy’n gweddu’n well i amgylchiadau’r drosedd.

Pen y dudalen

Derbyn pledion euog

Weithiau, bydd diffynnydd eisiau pledio’n euog i rai ond nid pob un o’r cyhuddiadau, neu i drosedd wahanol, sydd o bosib yn llai difrifol. Dylai Erlynwyr y Goron ond cytuno i hyn os ydynt o’r farn y bydd y llys yn gallu pasio dedfryd sy’n gweddu i ddifrifoldeb y troseddu.

Yr hyn na chaiff Erlynwyr y Goron ei wneud yw gofyn i’r barnwr neu’r ynadon basio math penodol o drosedd.

Pen y dudalen

Llinell Gymorth i Ddioddefwyr

Os bydd arnoch angen cymorth neu gefnogaeth gallwch ffonio’r Llinell Gymorth i Ddioddefwyr ar -

0845 30 30 900

Mae’r llinell yn cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr, elusen annibynnol sydd â staff a gwirfoddolwyr wedi eu hyfforddi i ddarparu cymorth emosiynol, gwybodaeth a chymorth ymarferol i bobl sy’n cael eu heffeithio gan droseddau.

Mae’r Llinell Gymorth i Ddioddefwyr yn rhif lleol, ac yn bwynt cyswllt hanfodol i unrhyw un sydd wedi dioddef effeithiau trosedd, p’un a hysbyswyd yr awdurdodau amdani ai peidio.

Gall staff esbonio’r gwasanaethau cyfrinachol sydd ar gael yn rhad ac am ddim drwy Gymorth i Ddioddefwyr a’ch rhoi mewn cysylltiad â’u Cynllun lleol Cymorth i Ddefnyddwyr neu Wasanaeth Tystion neu sefydliad arall os yw’n briodol.

Pen y dudalen

Cwynion

Ein nod yw delio â chwynion yn sensitif, yn deg ac yn gyfrinachol. Os bydd cyfiawnhad dros eich cwyn byddwn yn ymddiheuro, yn ceisio unioni’r mater a chymryd camau er mwyn sicrhau nad yw’n digwydd eto.

Ceisiwn ymateb i’ch cwyn cyn pen tri diwrnod gwaith wedi i ni dderbyn eich llythyr. Os na allwn anfon ymateb llawn atoch erbyn hynny, rhoddwn wybod i chi ein bod wedi derbyn eich llythyr a’n bwriad fydd anfon ymateb llawn cyn pen 10 diwrnod gwaith.

  1. Os byddwwch am gwyno am y ffordd y bu i ni ddelio ag achos, dylech ysgrifennu at swyddfa’r CPS a ddeliodd â’r achos yn wreiddiol.
    Cofiwch gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl, megis:
    • enw’r diffynnydd;
    • enw’r erlynydd fu’n gyfrifol am yr achos;
    • pa lys ddeliodd â’r achos;
    • dyddiad y gwrandadiad; a
    • chyfeirnodau a allai fod gennych.
  2. Os nad ydych yn fodlon â’r ymateb a dderbyniwch gan y swyddfa leol, dylech gysylltu â Phrif Erlynydd y Goron yr Ardal. Bydd yn delio â’ch cwyn ac yn ysgrifennu’n ôl atoch.
  3. Os nad ydych yn fodlon o hyd, dylech ysgrifennu at Uned Gwasanaeth Cwsmeriaid y CPS drwy’r Pwynt Ymholiadau i’r Cyhoedd. Fe welwch fanylion cyswllt isod.
  4. Cyfeirir cwynion na ellir mo’u datrys ar lefel leol, drwy’r Uned Gwasanaeth Cwsmeriaid at y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu at Brif Weithredwr y CPS a fydd yn ystyried yn bersonol sut mae delio â’ch cwyn, ac a fydd yn ymateb i chi neu’n trefnu i ymateb gael ei anfon.

Mae’n bosibl y bydd gan eich Canolfan Cynghori leol ragor o gyngor ynghylch dulliau o wneud cwyn, neu gallech ysgrifennu at eich Aelod Seneddol lleol.

Pen y dudalen

Cysylltiadau

Mae’r System Cyfiawnder Troseddol wedi ei ffurfio o nifer o asiantaethau. Maent yn cynnwys y canlynol, wedi eu rhestru gyda manylion cyswllt a allai fod o ddefnyddiol os ydych yn chwilio am ragor o wybodaeth.

Y Swyddfa Gartref:
Gwasanaeth Ymholiadau i’r Cyhoedd, Ffôn: 020 7273 2251
Gwefan: http://www.homeoffice.gov.uk

Yr Adran Materion Cyfansoddiadol:
Ffôn: 020 7210 8500
Gwefan: http://www.dca.gov.uk/

Gwasanaeth y Llysoedd:
Ffôn: 020 7210 2269
Gwefan: http://www.courtservice.gov.uk

Gwefan y Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol:
http://www.cjs.gov.uk

Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO):
Ffôn: 020 7227 3434
e-bost: info@acpo.police.uk

Swyddfa Genedlaethol Cymorth i Ddioddefwyr:
Ffôn: 020 7735 9166

Y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Gofalu am Droseddwyr a’u Hailsetlo:
Ffôn: 020 7582 6500

Gwefan Cyfiawnder Ieuenctid:
http://www.youth-justice-board.gov.uk

Gall Pwynt Ymholiadau Cyhoeddus y CPS ddarparu gwybodaeth gyffredinol ar y CPS a sut i gysylltu â hwy. Ni all yr uned roi cyngor cyfreithiol ond mae’n bosib y bydd yn gallu cynnig gwybodaeth ymarferol i chi.

Pwynt Ymholiadau Cyhoeddus y CPS
Ffôn: 020 7796 8500
Mae’n bosibl y byddwn yn recordio galwadau
Cyfeiriad ebost am ymholiadau a sylwadau:
enquiries@cps.gsi.gov.uk
Gellir anfon cwynion at:
complaints@cps.gsi.gov.uk

Mae gan ein Cangen Cyfathrebu amrediad o gyhoeddiadau am y CPS sydd yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â swyddfa’ch Ardal leol neu â.

Changen Cyfathrebu’r CPS
50 Ludgate Hill, Llundain, EC4M 7EX
Ffôn: 020 7796 8442
Ebost: publicity.branch@cps.gsi.gov.uk
Gwefan: http//www.cps.gov.uk

Cewch gopi o’r daflen hon mewn Braille, mewn ieithoedd eraill neu ar dâp sain. Cysylltwch â’ch CPS lleol am fanylion.

Pen y dudalen