Chwilio Manwl

2. Egwyddorion Cyffredinol

  1. Mae pob achos yn unigryw a rhaid ei ystyried ar sail ei ffeithiau ei hun ac yn ôl ei deilyngdod. Fodd bynnag, mae yna egwyddorion cyffredinol sy’n berthnasol i’r ffordd y mae’n rhaid i Erlynwyr y Goron ymdrin â phob achos.
  2. Rhaid i Erlynwyr y Goron fod yn deg, yn annibynnol ac yn wrthrychol. Rhaid iddynt beidio â gadael i unrhyw farn bersonol am darddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, rhyw, credoau crefyddol, daliadau gwleidyddol neu dueddfryd rhywiol y sawl a ddrwgdybir, y dioddefydd neu’r tyst, ddylanwadu ar eu penderfyniadau. Rhaid i bwysau amhriodol neu anaddas o unrhyw ffynhonnell beidio ag effeithio arnynt.
  3. Dyletswydd Erlynwyr y Goron yw sicrhau bod y person cywir yn cael ei erlyn am y trosedd cywir. Wrth wneud hynny, rhaid i Erlynwyr y Goron weithredu bob amser er budd cyfiawnder. Ni ddylent weithredu er mwyn cael barnu rhywun yn euog o drosedd yn unig.
  4. Dylai Erlynwyr y Goron roi cyfarwyddyd a chyngor i ymchwilwyr gydol y broses ymchwilio ac erlyn. Gallai hyn gynnwys trywyddau ymchwilio, gofynion tystiolaeth a chymorth gydag unrhyw weithdrefnau cyn cyhuddo. Bydd Erlynwyr y Goron yn mynd ati i nodi a, lle bo modd, unioni diffygion yn y dystiolaeth ac yn gweithredu’n fuan i gwblhau’r achosion hynny na ellir eu cryfhau trwy ymchwilio ymhellach.
  5. Dyletswydd Erlynwyr y Goron yw arolygu, cynghori ac erlyn achosion, gan sicrhau bod y gyfraith yn cael ei chymhwyso’n briodol, bod yr holl dystiolaeth berthnasol yn cael ei chyflwyno gerbron y llys a bod y ddwy ochr yn dadlennu gwybodaeth yn briodol, yn unol â’r egwyddorion a bennir yn y Côd hwn.
  6. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn awdurdod cyhoeddus er dibenion Deddf Iawnderau Dynol 1998. Rhaid i Erlynwyr y Goron gymhwyso egwyddorion y Cytundeb Ewropeaidd ar Iawnderau Dynol yn unol â’r Ddeddf.