Chwilio Manwl

9. Dull Y Treial

  1. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn defnyddio’r canllawiau presennol ar gyfer ynadon sy’n gorfod penderfynu a ddylai achosion gael eu rhoi ar brawf yn Llys y Goron, lle bo’r trosedd yn golygu bod dewis a lle nad yw’r diffynnydd yn pledio’n euog. Fe ddylai Erlynwyr y Goron argymell reial yn Llys y Goron pan fyddant yn fodlon bod y canllawiau yn mynnu eu bod yn gwneud hynny.
  2. Wrth ofyn am i achos gael aros yn llys yr ynadon, ni ddylid gwneud hynny o safbwynt cyflymdra yn unig. Ond fe ddylai Erlynwyr y Goron ystyried effaith unrhyw oedi tebygol os byddant yn anfon achos i Lys y Goron, ac unrhyw bwysau posib ar ddioddefwyr a thystion os bydd oedi yn yr achos.