Chwilio Manwl

1.Cyflwyniad

  1. Mae penderfynu erlyn unigolyn yn gam difrifol. Mae erlyn yn deg ac effeithiol yn hollbwysig er mwyn ynnal cyfraith a threfn. Hyd yn oed mewn achos bach, mae goblygiadau difrifol i bawb sydd ynghlwm â’r achos-yn ddioddefwyr, yn dystion ac yn ddiffynyddion. Fe fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymhwyso’r Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron er mwyn gallu penderfynu’n deg a chyson ynghylch erlyniadau.
  2. Mae’r Côd yn helpu Gwasanaeth Erlyn y Goron i chwarae ei ran a sicrhau y ceir cyfiawnder. Mae’n cynnwys gwybodaeth sy’n bwysig i swyddogion yr heddlu a phobl eraill sy’n gweithio yn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol ac i’r cyhoedd. Fe ddylai swyddogion yr heddlu gadw at ddarpariaethau’r Côd hwn pan fyddan nhw’n gyfrifol am benderfynu a ydyn nhw am gyhuddo rhywun o gyflawni trosedd.
  3. Fe gafodd y Côd ei gynllunio hefyd i wneud yn siwr bod pawb yn gwybod yr egwyddorion y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cadw atynt wrth wneud ei waith. Trwy gadw at yr un egwyddorion, mae pawb sydd â rhan yn y gyfundrefn yn helpu i drin dioddefwyr, tystion a diffynyddion yn deg, gan erlyn achosion yn effeithiol.