Chwilio Manwl

Beth yw’r Côd i Ddioddefwyr?

Os ydych yn rhywun sydd wedi Dioddef trosedd gallwch ddisgwyl:

I'r heddlu ymchwilio i'r trosedd y rhoesoch wybod amdano a derbyn gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd;

Cyfle i egluro sut mae'r trosedd wedi effeithio arnoch chi, a bod eich buddiannau yn cael eu hystyried;

Cael eich trin gyda pharch a sensitifrwydd; cael cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol; os oes raid i chi fynd i'r llys fel tyst.

Y Côd i Ddioddefwyr - Saesneg (PDF)

Cyfweliadau â thystion cyn achosion: Cod ymarfer

(at ddibenion Peilotau’r CPS)

  1. Cyflwyniad
  2. Cyfweliadau mae’r Cod Ymarfer hwn yn Gymwys iddynt
  3. Pobl sy’n cael cynnal cyfweliad
  4. Pobl sy’n bresennol yn y cyfweliad
  5. Cymorth i ddioddefwyr troseddau
  6. Y cyfweliad
  7. Holi
  8. Cofnodi a datgelu
  9. Plant a thystion bregus eraill
  10. Treuliau tystion
  11. Cyfweld o bell

  1. Cyflwyniad
    1. Ym mis Rhagfyr 2004 fe gyhoeddodd y Twrnai Cyffredinol adroddiad a ddaeth i’r casgliad y dylai Erlynwyr fedru siarad â thystion at ddibenion egluro neu asesu dibynadwyedd y dystiolaeth y gallent ei rhoi. Yn ogystal, daeth yr adroddiad i’r casgliad y dylid cefnogi’r broses gyda Chod Ymarfer. Mae’r Cod Ymarfer hwn, a gyflwynwyd gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn darparu canllawiau i erlynwyr sy’n cynnal cyfweliadau cyn-achos gyda thystion mewn cynllun peilot sydd i’w redeg yn Ardaloedd CPS Swydd Gaerhirfryn, Ardal Manceinion, Glannau Merswy a Cumbria.
    2. Pen y dudalen

  2. Cyfweliadau mae’r Cod Ymarfer hwn yn Gymwys iddynt
    1. Mae’r Cod Ymarfer hwn yn gymwys i gyfweliadau at ddiben cynorthwyo erlynydd i asesu dibynadwyedd tystiolaeth tyst, neu er mwyn deall tystiolaeth gymhleth (cyfeirir at hyn drwy gydol y ddogfen hon fel cyfweliad cyn achos). Nid yw’n gymwys i gyfarfodydd eraill â thystion megis cyfarfodydd mesurau arbennig, ymweliadau ymgyfarwyddo â llysoedd, neu gyfarfodydd er mwyn esbonio penderfyniad i ddirwyn achos i ben neu i newid cyhuddiad yn arwyddocaol.
    2. Caiff Erlynydd y Goron gynnal cyfweliad cyn-achos â thyst pan fydd yn ystyried y bydd yn ei alluogi i gyrraedd penderfyniad mwy gwybodus ynghylch unrhyw agwedd ar yr achos. Rhaid peidio â chynnal cyfweliad cyn-achos at ddiben gwella tystiolaeth neu berfformiad tyst er y caiff erlynydd sy’n cynnal cyfweliad cyn-achos ateb cwestiynau tyst ynghylch gweithdrefnau’r llys.
    3. Lle y bydd erlynydd yn cynnal cyfweliad cyn-achos er mwyn asesu dibynadwyedd tystiolaeth tyst, gellir gofyn i’r tyst ynghylch cynnwys datganiad a roddodd neu faterion eraill sy’n ymwneud â dibynadwyedd. Gall hyn gynnwys siarad y tyst drwy’r datganiad a roddodd, gofyn cwestiynau er mwyn egluro ac ehangu ar dystiolaeth, gofyn cwestiynau ynghylch cymeriad, archwilio tystiolaeth newydd neu brofi stori’r tyst.
    4. Gellir cynnal cyfweliad cyn-achos ar unrhyw gam yn yr achos (gan gynnwys cyn cyhuddo) hyd nes y bydd y tyst yn dechrau cyflwyno tystiolaeth gerbron yr achos. Fodd bynnag, ni ddylid cynnal cyfweliad hyd nes y bydd y tyst wedi darparu datganiad tyst wedi ei lofnodi, neu wedi cymryd rhan mewn cyfweliad tystiolaeth gweledol sydd wedi ei recordio. Pan fydd erlynydd wedi penderfynu bod cyfweliad cyn-achos yn briodol, dylid ei gynnal mor fuan ag sy’n rhesymol ymarferol.
    5. Cyn cynnal cyfweliad cyn-achos, dylai’r erlynydd ymgynghori â’r Uwch Swyddog Ymchwilio (neu’r swyddog yn yr achos os nad oes SIO). Bydd angen cadarnhad ar yr erlynydd nad yw’r person i’w gyfweld yn cael ei ddrwgdybio, ac nad yw’n debygol o gael ei ddrwgdybio o fod wedi cyflawni’r drosedd. Os bydd posibilrwydd y gallai’r tyst gael ei ddrwgdybio, rhaid peidio â chynnal y cyfweliad hyd nes y bydd y posibilrwydd wedi peidio â bod.
    6. Os, yn ystod cyfweliad, y daw tyst i gael ei ddrwgdybio, p’un ai o ran y drosedd sydd yn cael ei harchwilio ar y pryd, neu drosedd arall, rhaid i’r erlynydd ddirwyn y cyfweliad i ben yn syth. Caiff yr erlynydd hefyd ddirwyn y cyfweliad i ben am resymau eraill (megis gelyniaeth) ar unrhyw adeg.
    7. Pen y dudalen

  3. Pobl sy’n cael cynnal cyfweliad
    1. Caiff Erlynydd y Goron a ddynodwyd gan Brif Erlynydd y Goron eu hardal neu Bennaeth Adran, neu gan eiriolwr annibynnol ar awdurdod Erlynydd y Goron penodedig, gynnal cyfweliad cyn-achos.
    2. Pen y dudalen

  4. Pobl sy’n bresennol yn y cyfweliad
    1. Fel arfer, ni fydd presenoldeb heddwas yn briodol, ond fel eithriad, caiff yr erlynydd neu berson penodedig arall sy’n cynnal y cyfweliad ofyn am bresenoldeb heddwas os barnant fod hyn yn angenrheidiol. Rhaid i’r heddwas sy’n mynychu’r cyfweliad fod yn gyfarwydd â’r achos, ond os yw’n bosibl, ni ddylai’r heddwas a gafodd ddatganiad gwreiddiol y tyst fynychu. Ni ddylai swyddog sy’n mynychu cyfweliad holi’r tyst o dan unrhyw amgylchiadau. Os, o ganlyniad i rywbeth a ddywedir mewn cyfweliad, y bydd angen i’r heddwas a’r erlynydd ymgynghori ynghylch pwynt o dystiolaeth, dylid oedi’r cyfweliad a dylid trafod yn absenoldeb y tyst.
    2. Gellir cynnal cyfweliad gan fwy nag un erlynydd neu gan erlynydd ac eiriolwr annibynnol. Fodd bynnag, pan wneir hyn, un person ddylai arwain y broses.
    3. Caiff staff arall y CPS hefyd fod yn bresennol er mwyn darparu cymorth gweinyddol i’r erlynydd.
    4. Mewn unrhyw achos, lle y bydd yr erlynydd yn ei farnu’n angenrheidiol i’r tyst fod â chymorth lladmerydd neu gyfryngwr (p’un a gymerwyd y datganiad gwreiddiol yn y dull hwn ai peidio), bydd yr erlynydd yn trefnu i berson sy’n meddu ar gymwysterau addas fynychu’r cyfweliad cyn-achos. Rhaid i bobl a allai fod yn ddarpar dystion eu hunain beidio â gweithredu fel lladmerydd neu gyfryngwr ond caiff person a gynorthwyodd i gymryd datganiad gan dyst gynorthwyo mewn cyfweliad cyn-achos. Dylai erlynwyr gyfeirio at y canllawiau sydd eisoes yn bodoli ar ddethol lladmeryddion.
    5. Pen y dudalen

  5. Cymorth i ddioddefwyr troseddau
    1. Caiff cefnogwr fod gyda’r tyst. Rhaid i’r erlynydd fodloni ei hun nad oes gan y cefnogwr ran, neu ddarpar ran i’w chwarae yn yr achos, ac nad oes ganddo wybodaeth bersonol o’r materion sy’n debygol o gael eu trafod. Mae gan yr erlynydd sy’n cynnal y cyfweliad ddisgresiwn ynghylch p’un a ddylid caniatáu i’r cefnogwr fod yn bresennol yn y cyfweliad neu i aros ynddo. Os bydd y cefnogwr arfaethedig, ym marn yr erlynydd, yn anaddas i weithredu fel cefnogwr, dylid rhoi cyfle i’r tyst drefnu cefnogwr addas arall a dylid ad-drefnu’r cyfweliad i’r diben hwn.
    2. Rhaid i’r erlynydd amlinellu rôl y cefnogwr a sicrhau nad yw’n ysgogi neu’n llethu’r tyst, neu’n dylanwadu arno mewn unrhyw ffordd.
    3. Pen y dudalen

  6. Y cyfweliad
    1. Ni ellir gorfodi tyst i fynychu cyfweliad cyn-achos - gweithred wirfoddol ydyw. Os bydd tyst yn gwrthod â mynychu cyfweliad cyn-achos, dylid datgelu’r ffaith hon ac unrhyw resymau a roddwyd gan y tyst, fel rheol, i’r amddiffyniad yn unol ag ymrwymiadau datgelu’r erlynydd.
    2. Rhaid i’r erlynydd aros yn wrthrychol ac yn amhleidiol ar bob adeg yn ystod y cyfweliad. Bydd yn esbonio’r i’r tyst beth yw ei rôl statudol, gan ystyried dyletswyddau’r erlynydd a nodir yng Nghod Erlynwyr y Goron a’r Cod Ymarfer hwn. Yn ogystal, dylai esbonio ymlaen llaw i’r tyst mewn modd eglur iawn beth yw nod y cyfweliad a dylai ddelio â chwestiynau a allai fod gan y tyst o ran y broses.
    3. Rhaid peidio â chyfweld â thyst ym mhresenoldeb tyst arall yn yr achos (ac eithrio swyddog yr achos lle y bydd yn bresennol ar wahoddiad y person sy’n cynnal y cyfweliad).
    4. Dylai’r tyst weld copïau o’i ddatganiad(au) tyst cyn neu yn ystod y cyfweliad. Lle y bydd y tyst wedi cymryd rhan mewn cyfweliad a recordiwyd yn weledol, dylai gael y cyfle i’w weld eto. Lle y bydd yr erlynydd yn ei barnu’n angenrheidiol, dylai’r tyst gael cyfle i roi sylwadau ar y datganiad a roddodd, neu’r cyfweliad a recordiwyd yn weledol y cymerodd ran ynddo.
    5. Os yw’r tyst wedi gweld copi o’i ddatgniad ysgrifenedig, neu wedi gweld eu cyfweliad a recordiwyd yn weledol cyn y cyfweliad, dylid cadarnhau’r ffaith hon wrth ddechrau cyfweld.
    6. Lle bo’r erlynydd yn ei farnu’n angenrheidiol, gellir dangos eitemau neu ddogfennau i’r tyst sydd i’w harddangos ganddo/ganddi yn y llys.
    7. Pen y dudalen

  7. Holi
    1. Ni chaniateir hyfforddi tystion (gweler R v Momodou a Limani (2005) EWCA Crim 177). Rhaid i erlynwyr, o dan unrhyw amgylchiadau, beidio â hyfforddi’r tyst neu ofyn cwestiynau a allai lygru tystiolaeth y tyst. Dylid osgoi cwestiynau arweiniol.
    2. Lle ceir gwrthdaro arwyddocaol rhwng tystion na ellir ei ddatrys drwy holi gofalus, gellir cyflwyno gwahanol gyfrifon gerbron y tyst ar gyfer sylwadau, cyhyd ag y cedwir ffynhonnell unrhyw gyfrif arall yn anhysbys. Os gwneir hyn, ni ddylid awgrymu i’r tyst y dylent fabwysiadu’r cyfrif arall.
    3. Dylai erlynwyr aros yn bwyllog ynghylch atebion tystion. Yn benodol, rhaid iddynt beidio byth ag awgrymu i’r tyst y gallai fod yn anghywir, cymeradwyo, anghymeradwyo mewn unrhyw ffordd ateb y bydd tyst yn ei roi. Mae ymadael â’r safon hon yn peryglu achosi cyhuddiadau bod y tyst wedi cael ei gamarwain neu ei hyfforddi o ran y dystiolaeth y bydd yn ei rhoi.
    4. Pen y dudalen

  8. Cofnodi a datgelu
    1. Rhaid gwneud recordiad awdio cynhwysfawr o’r cyfweliad. Os bydd tyst eisoes wedi rhoi cyfweliad tystiolaeth a gofnodwyd yn weledol, gellir hefyd recordio’r cyfweliad cyn-achos ar fideo.
    2. Lle, yn ystod cyfweliad, y bydd tyst yn darparu tystiolaeth bellach sy’n ddeunydd i’r achos, dylid cymryd datganiad tyst arall (neu gynnal cyfweliad gweledol) gan heddwas a dylid cyflwyno hyn i’r amddiffyniad.
    3. Hysbysir y swyddog datgelu am unrhyw ddeunydd na ddefnyddiwyd a gynhyrchir drwy’r broses a bydd yn ei gofnodi ar y drefnlen datgelu briodol.
    4. Fel arfer, bydd y cofnod o gyfweliad cyn-achos yn ddeunydd na ddefnyddiwyd a dylid pennu’r datgelu drwy roi’r prawf neu’r profion statudol priodol ar waith. Fel arfer, bydd cofnod o’r cyfweliad cyn-achos yn diwallu’r profion hyn ac at ddibenion y peilot, ac yn ddarostyngedig i Brawf Budd y Cyhoedd, bydd y recordiad o’r cyfweliad yn cael ei ddarparu’n awtomatig i’r amddiffyniad fel deunydd na ddefnyddiwyd. Pan fydd recordiad yn cael ei ddarparu i’r amddiffyniad, ni fydd trawsgrifiad yn cael ei baratoi.
    5. Pen y dudalen

  9. Plant a thystion bregus eraill
    1. Rhaid wrth ofal arbennig wrth benderfynu cynnal cyfweliad cyn-achos gyda phlentyn. Prif bwrpas recordio tystiolaeth plant a thystion bregus eraill yw cadw eu tystiolaeth ar gyfnod cynnar yn y broses a’u hamddiffyn rhag yr angen i ailadrodd eu stori’n barhaus yn ystod y broses erlyn troseddol. Ymhellach, mewn achosion lle y bydd plant a thystion bregus eraill wedi dioddef o gamdriniaeth, gallai therapi fod wedi dechrau yn sgîl recordio eu tystiolaeth ar fideo.
    2. Felly, dim ond mewn achosion eithriadol y bydd cyfweliad cyn-achos yn cael ei ystyried yn addas i dystion sy’n blant neu’n fregus. Bydd erlynwyr yn ymelwa ar y fideo er mwyn asesu’r tyst ac os oes meysydd y mae angen rhagor o egluro arnynt, ystyrir gofyn i’r cyfwelydd gwreiddiol eu harchwilio drwy recordio cyfweliad fideo ychwanegol. Bydd y cyfwelwyr archwilio eisoes wedi meithrin perthynas gyda’r tyst a bydd ganddynt y sgiliau arbennig y mae eu hangen i archwilio’r mater mewn ffordd syml, heb fod yn awgrymog.
    3. Wrth benderyfnu cynnal cyfweliad cyn-achos, ystyrir oedran a statws y tyst, yn ogystal â pha mor fregus ydyw. Lle cafodd y datganiad gwreiddiol ei recordio ar fideo, bydd y cyfweliad cyn-achos hefyd yn cael ei recordio ar fideo. Rhaid i’r lleoliad fod yn briodol i’r tyst ac ym mwyafrif yr achosion, defnyddio ystafell cyfweld fideo yr heddlu. Rhaid bod gan y tyst gefnogaeth briodol a bydd yr erlynydd yn cymryd cyngor gan gyfwelydd hyfforddiedig yr heddlu ynghylch y math o gwestiynau i’w holi, a’u lefel. Rhaid hefyd i’r erlynydd fod yn gyfarwydd â’r canllawiau arfer ‘Sicrhau’r Dystiolaeth Orau mewn Achosion Troseddol’.
    4. Pen y dudalen

  10. Treuliau tystion
    1. Ad-delir tystion am unrhyw dreuliau rhesymol a gododd er mwyn mynychu lleoliad y cyfweliad cyn-achos. Gall hyn gynnwys treuliau cefnogwr. Telir yn unol â lwfansau safonol tystion.
    2. Pen y dudalen

  11. Cyfweld o bell
    1. Er mwyn darparu’r cyfle gorau i asesu dibynadwyedd tystiolaeth tyst, dylai cyfweliad cyn-achos, lle bynnag y bo’n ymarferol, gynnwys cyswllt wyneb yn wyneb rhwng yr erlynydd a’r tyst. Mae cyswllt wyneb yn wyneb yn rhoi rhagor o gyfleoedd i’r tyst godi materion sydd o bryder ac i gael eu cysuro ynghylch rhoi tystiolaeth.
    2. Fodd bynnag, caiff erlynydd, yn ôl ei ddisgresiwn, gynnal cyfweliad cyn-achos drwy ddulliau anuniongyrchol gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gyswllt ffôn neu fideo. Mewn achosion o’r fath, rhaid i’r erlynydd wneud trefniadau i gofnod o’r cyfweliad gael ei wneud mewn cydymffurfiaeth â’r gofynion a nodir uchod.

 

KEN MACDONALD CF
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus

Rhagfyr 2005

Pen y dudalen