Dioddefwyr a Thystion
Crëwyd Unedau Gofal Tystion (WCU) o dan y fenter Dim Tyst Dim Cyfiawnder, er mwyn darparu lefel uwch o wasanaeth i holl ddioddefwyr a thystion troseddau yng Nghymru a Lloegr lle dygwyd cyhuddiad. Mae WCU ymhob un o ardaloedd y CPS, wedi eu staffio gan bersonél y CPS a’r heddlu.
Dyrennir swyddog WCU i bob dioddefwr a thyst er mwyn eu harwain drwy eu profiad. Bydd y swyddog hwn yn eu diweddaru ar ddyddiadau’r llys, yn derbyn cwestiynau a allai fod ganddynt am y system cyfiawnder troseddol ac yn eu sicrhau ynghylch pob agwedd ar eu hymddangosiad yn y llys.
Gellir trefnu ymweliad i weld cyfleusterau tystion ac er mwyn mynd am dro o gwmpas y llys. Os bydd eisiau triniaeth arbennig ar ddioddefwr neu dyst yn y llys, caiff y CPS ymgeisio am fesurau arbennig, felly hefyd os bydd gan ddioddefwr neu dyst ddibynyddion, ac mae mynychu’r llys yn anodd, gall y WCU drefnu gofalwr plant cofrestredig.
A wyddoch chi, er enghraifft:
- Bod posibilrwydd defnyddio sgrîn er mwyn cysgodi tyst rhag diffynnydd
- Bod trefniadau’n gallu cael eu gwneud er mwyn rhoi tystiolaeth drwy ddolen teledu fyw
- Bod modd i farnwyr a chyfreithwyr dynnu wigiau a gynau
- Y gellir clirio pobl o’r oriel gyhoeddus
Y nod yw tynnu’r straen allan o fynychu’r llys ac i sicrhau bod tystion a dioddefwyr wedi’u diweddaru ynghylch newyddion mewn ffordd sy’n gyfleus iddynt. Gall hyn fod yn ysgrifenedig, drwy ebost, neu hyd yn oed drwy neges testun! Mae tystion yn rhan allweddol o sicrhau erlyniadau a lleihau’r bwlch cyfiawnder felly rydym am wneud y profiad mor syml ag y gallwn.
