Trosedd casineb
Trosedd hiliol a chrefyddol
I ni, digwyddiad wedi’i ysgogi gan hil neu grefydd yw:
Unrhyw ddigwyddiad a ystyrir gan y dioddefwr neu unrhyw un arall yn ddigwyddiad wedi’i ysgogi gan hil neu grefydd.
Mae trosedd yn un gwaethygol hiliol neu grefyddol:
- os yw’r troseddwr, adeg cyflawni’r trosedd, neu’n union cyn neu ar ôl gwneud hynny, yn arddangos gelyniaeth tuag at ddioddefwr y trosedd ar sail bod y dioddefwr (neu dybiaeth ei fod ef neu hi) yn aelod o grŵp hiliol neu grefyddol; neu
- os yw’r trosedd wedi’i ysgogi (yn llwyr neu’n rhannol) gan elyniaeth tuag at aelodau o grŵp hiliol neu grefyddol ar sail eu haelodaeth o’r grŵp hwnnw.
Gyda rhai troseddau, gan gynnwys ymosod, aflonyddu, difrod troseddol a throseddau trefn gyhoeddus, gellir eu herlyn yn benodol fel troseddau gwaethygol hiliol neu grefyddol.
Gydag unrhyw drosedd arall ble ceir tystiolaeth o weithgarwch gwaethygol hiliol neu grefyddol, mae’r diffynnydd yn wynebu dedfryd fwy llym na phetai ef neu hi wedi’i gael yn euog o drosedd nad yw’n hiliol neu’n grefyddol.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch trosedd hiliol a chrefyddol i’w chael ar y wefan hon yn adran Cyhoeddiadau/Polisi a Chanllawiau Erlyn/Trosedd Hiliol a Chrefyddol.
Trosedd homoffobig
Trosedd homoffobig yw unrhyw ddigwyddiad a ystyrir gan y dioddefwr neu unrhyw un arall [gan gynnwys y troseddwr] yn ddigwyddiad homoffobig neu’n drawsffobig.
Rydym yn ystyried troseddau homoffobig yn arbennig o ddifrifol oherwydd eu bod yn tanseilio hawl pobl i deimlo’n ddiogel ynghylch eu tueddfryd rhywiol a bod yn ddiogel beth bynnag fo’r tueddfryd hwnnw.
Mae troseddau o’r fath wedi’u seilio ar ragfarn, gwahaniaethu a chasineb, ac nid oes lle iddynt mewn cymdeithas agored a democrataidd.
Rydym yn ystyried elfen homoffobig unrhyw drosedd yn nodwedd waethygol ddifrifol. Rydym yn benderfynol o chwarae ein rhan i leihau troseddu trwy ddod â throseddwyr gerbron llys.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch trosedd homoffobig i’w chael ar y wefan hon yn adran Cyhoeddiadau/Polisi a Chanllawiau Erlyn/Homoffobia.
Trosedd casineb tuag at bobl anabl
Mae’r CPS eisiau i ddioddefwyr a thystion anabl a’u teuluoedd a’u cymunedau, yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol, fod yn hyderus bod y CPS yn deall natur ddifrifol y math hwn o drosedd. Os yw rhywun yn teimlo nad yw’n ddiogel neu nad oes croeso iddo/iddi, neu’n ei gael ei hun mewn sefyllfa o’r fath – o gael eu hosgoi neu eu gwrthod, at drais, aflonyddu a stereoteipio negyddol – gall hyn oll gael effaith negyddol sylweddol ar synnwyr diogelwch a lles y bobl anabl. Y mae hefyd yn effeithio’n fawr ar eu gallu i gymryd rhan yn eu cymunedau, yn gymdeithasol ac economaidd.
- Dangosodd Arolwg Agweddau ac Ymwybyddiaeth y Comisiwn Hawliau Anabledd (2003) bod 22% o’r bobl anabl a ymatebodd wedi profi aflonyddu mewn man cyhoeddus oherwydd eu cyflwr. Roedd achosion o aflonyddu yn fwy amlwg ymysg pobl 15-34 oed gyda 33% o’r grŵp hwn o bobl anabl wedi profi aflonyddwch (DRC, 2003).
- Dioddefodd wyth y cant o bobl anabl yn Llundain ymosodiad treisgar yn ystod 2001-02 o gymharu â phedwar y cant o bobl nad ydynt yn anabl. Yn ôl ymchwil Greater London Action on Disability (GLAD), "Mae’r ymosodiadau yn cael effaith fawr ar bobl anabl. Bu’n rhaid i tua thraean osgoi mannau penodol a newid eu trefn arferol. Mae un o bob pedwar wedi symud cartref o ganlyniad i’r ymosodiad. Mae llawer o bobl anabl nad ydynt yn hyderus y gall yr heddlu helpu i rwystro’r digwyddiadau" (GLAD 2002).
- Dangosodd ymchwil gan Mencap bod 90% o bobl ag anabledd dysgu wedi profi bwlio [*1] ac aflonyddu. Mae chwe deg chwech y cant o bobl ag anabledd dysgu wedi cael eu bwlio’n rheolaidd gyda 32% yn nodi bod bwlio’n digwydd yn ddyddiol neu’n wythnosol (Living in Fear, 2000).
Mae diogelwch pobl ac eiddo, a’r hawl i fyw bywyd yn rhydd rhag ofn ac aflonyddu yn hawliau dynol sylfaenol ac mae’r CPS yn cydnabod effaith ehangach troseddau casineb tuag at bobl anabl ar y gymuned pan fo’n taro’r holl bobl anabl trwy danseilio eu synnwyr diogelwch a sicrwydd yn y gymuned. Am y rheswm hwn, rydym yn ystyried troseddau casineb tuag at bobl anabl yn arbennig o ddifrifol. Mae troseddau o’r fath yn seiliedig ar anwybodaeth, rhagfarn, gwahaniaethu a chasineb ac nid oes lle iddynt mewn cymdeithas agored a democrataidd.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch trosedd casineb tuag at bobl anabl i’w chael ar y wefan hon yn adran Cyhoeddiadau/Polisi a Chanllawiau Erlyn/Trosedd Casineb tuag at Bobl Anabl.
[*1] Cydnabyddwn y gall y term ’bwlio’ gynnwys gweithredoedd troseddol. Er enghraifft, cafwyd adroddiadau gan 33% am ymosodiadau corfforol ac ymosodiadau eraill gan gynnwys: ’pobl yn poeri atynt, cael taro eu pen yn erbyn wal, galw enwau arnynt, pethau’n cael eu dwyn oddi arnynt a cherrig yn cael eu taflu atynt’.
