Chwilio Manwl

10. Derbyn Pledion Euog

  1. Mae’n bosib y bydd diffynyddion eisiau pledio’n euog i rai cyhuddiadau, ond nid yr holl gyhuddiadau. Neu, mae’n bosib y byddant eisiau pledio’n euog i gyhuddiad gwahanol, cyhuddiad llai difrifol o bosib, oherwydd eu bod yn cyfaddef i ran o’r trosedd yn unig. Ni ddylai Erlynwyr y Goron dderbyn ple’r diffynnydd oni bai eu bod o’r farn y gall y llys draddodi dedfryd sy’n cyfateb i ddifrifoldeb y trosedd, yn enwedig os oes nodweddion sy’n gwaethygu’r trosedd. Rhaid i Erlynwyr y Goron beidio byth â derbyn ple euog dim ond oherwydd bod hynny’n gyfleus.
  2. Wrth ystyried a yw’r pledion a gynigir yn dderbyniol, dylai Erlynwyr y Goron sicrhau bod buddiannau’r dioddefydd a, ble bo modd, unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y dioddefydd neu deulu’r dioddefydd, yn cael eu hystyried wrth benderfynu a yw derbyn y ple er budd y cyhoedd. Fodd bynnag, Erlynydd y Goron sy’n gyfrifol am y penderfyniad.
  3. Rhaid egluro wrth y llys ar ba sail y cyflwynir ac y derbynnir unrhyw ble. Mewn achosion lle bydd diffynnydd yn pledio’n euog i’r cyhuddiadau ond ar sail ffeithiau sy’n wahanol i achos yr erlyniad, a ble gall hyn effeithio’n sylweddol ar y ddedfryd, fe ddylid gwahodd y llys i wrando tystiolaeth er mwyn penderfynu’r hyn a ddigwyddodd, ac yna ddedfrydu ar sail hynny.
  4. Os bydd diffynnydd wedi nodi cyn hynny y bydd ef neu hi’n gofyn i’r llys gymryd trosedd i ystyriaeth wrth ddedfrydu, ond yna’n gwrthod cyfaddef y trosedd yn y llys, bydd Erlynwyr y Goron yn ystyried a oes angen erlyn am y trosedd hwnnw. Dylai Erlynwyr y Goron egluro wrth adfocad yr amdiffyniad a’r llys y gallai erlyn y trosedd hwnnw fod yn destun arolwg pellach.
  5. Rhaid bod yn arbennig o ofalus wrth ystyried pledion a fyddai’n galluogi’r diffynnydd i osgoi’r ddedfryd fandadol leiaf. Wrth gynnig pledion, rhaid i Erlynwyr y Goron gofio y gellir gwneud gorchmynion